Ethan Mbappé | |
---|---|
Ganwyd | 29 Rhagfyr 2006 Montreuil |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Tad | Wilfrid Mbappé |
Mam | Fayza Lamari |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Paris Saint-Germain F.C. |
Safle | canolwr |
Mae Ethan Mbappé Lottin (ganwyd 29 Rhagfyr 2006[1]) yn bêl-droediwr proffesiynol o Ffrainc sy'n chwarae yng ngahol y cae i glwb Ligue 1 Lille.
Cafodd ei eni yn Montreuil, Seine-Saint-Denis. Mae ganddo ddau frawd sydd hefyd yn chwarae pêl-droed yn broffesiynol, Kylian Mbappé[2] a Jirès Kembo Ekoko. Mae ei dad Wilfred Mbappé yn dod o Gamerŵn, a'i fam Fayza Lamari, sydd hefyd yn asiant iddo, yn dod o Algeria.
Chwaraeodd Mbappé am y tro cyntaf i Paris Saint-Germain F.C. ar 20 Rhagfyr 2023 yn erbyn Metz. Cyhoeddodd ei fod yn gadael PSG ar 18 Mehefin 2024.
Ym mis Gorffennaf 2024, symudodd i Lille ar gytundeb 3 blynedd.
Cafodd ei anafu ym mis Medi 2024, a chollodd gêm yn erbyn ei frawd Kylian yn Real Madrid C.F..