Y broses o ffurfio grŵp ethnig neu genedl, ei chyfnod genedigol, yw ethnogenesis. Mae'n anodd olrhain pobloedd hynafol i'w tarddiad, ac yn aml mae gan grwpiau ethnig fytholeg eu hunain ynghylch eu gwreiddiau. Gall hanesyddion ac anthropolegwyr ddibynnu rhywfaint ar hanes traddodiadol a chwedloniaeth led-hanesyddol wrth geisio llunio cofnod ffeithiol o ethnogenesis.