Enghraifft o: | agweddau o ardal ddaearyddol ![]() |
---|---|
Math | etholiad ![]() |
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori ![]() |
Cynhelir etholiadau cenedlaethol yn y Traeth Ifori i ddewis arlywydd y wlad ac aelodau'r ddeddfwrfa, pob pum mlynedd fel rheol.
Enillodd y Traeth Ifori ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1960, ac ers hynny cynhelid etholiadau arlywyddol pob pum mlynedd, yn Hydref neu Dachwedd, ac eithrio 2005. O 1960 i 1995 cynhaliwyd hefyd etholiadau seneddol pob pum mlynedd yn Nhachwedd. O ganlyniad i derfysg yn ystod yr etholiad seneddol yn Rhagfyr 2000, gohiriwyd rhai o'r pleidleisio nes Ionawr 2001. Ni chynhaliwyd etholiad seneddol eto nes Rhagfyr 2011, ac yna Rhagfyr 2016 a Mawrth 2021.
Yn ystod 30 mlynedd gyntaf y weriniaeth caniatawyd un blaid yn unig, Plaid Ddemocrataidd y Traeth Ifori (PDCI). Yn y chwech etholiad arlywyddol o 1960 i 1985, Félix Houphouët-Boigny oedd yr unig ymgeisydd, ac er oedd y canlyniad yn rhagderfynedig, bu'r niferoedd a drodd allan i bleidleisio yn uchel iawn. Ym 1990, cynhaliwyd etholiad arlywyddol am y tro cyntaf gyda gwrthwynebydd, Laurent Gbagbo o'r Ffrynt Poblogaidd Iforaidd. Enillodd Houphouët-Boigny unwaith eto, gyda 82% o'r bleidlais. Wedi marwolaeth Houphouët-Boigny ym 1993, fe'i olynwyd yn arlywydd gan Henri Konan Bédié. Yn Hydref 1995, etholwyd Bédié gyda 96% o'r bleidlais, wedi i gefnogwyr y cyn-brif weinidog Alassane Ouattara alw am foicot wedi i'r llywodraeth rhwystro ymgeiswyr eraill. Cafodd Bédié ei ddymchwel gan coup d'état dan arweiniad y Cadfridog Robert Guéï, yn Rhagfyr 1999; er gwaethaf, cynhaliwyd yr etholiad arlywyddol nesaf yn ôl y drefn, yn Hydref 2000. Hawliodd Guéï fuddugoliaeth serch enillodd ei wrthwynebydd, Laurent Gbagbo, ddwywaith y nifer o bleidleisiau bron. Cafodd Guéï ei ddymchwel yn ei dro gan wrthryfel poblogaidd, ac esgynnodd Gbagbo i'r arlywyddiaeth. Yn sgil y rhyfel cartref cyntaf o 2002 i 2007, gohiriodd Gbago yr etholiad arlywyddol nesaf sawl gwaith, a fe'i cynhaliwyd o'r diwedd yn 2010. Hawliodd Gbago a'i wrthwynebydd, Alassane Ouattara, ill dau fuddugoliaeth, gan sbarduno argyfwng gwleidyddol ac ail ryfel cartref. Wedi i luoedd Ouattara gipio Gbagbo yn Ebrill 2011, cydnabuwyd Ouattara yn enillydd cyfreithlon yr etholiad, a chafodd ei ail-ethol yn 2015[1][2] a 2020.[3][4][5]
Ers annibyniaeth, cynhaliwyd refferendwm ar lefel genedlaethol ddwywaith: yng Ngorffennaf 2000 i gadarnháu newidiadau i'r cyfansoddiad,[6] ac yn Hydref 2016 i sicrhau cydsyniad yr etholwyr i gyfansoddiad newydd.[7]