Eugenio Espejo | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1747 Real Audiencia de Quito |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1795 Quito |
Dinasyddiaeth | Quito |
Galwedigaeth | llenor, cyfreithiwr, meddyg, gwyddonydd, llyfrgellydd, gwleidydd |
Mudiad | Yr Oleuedigaeth |
Llenor, meddyg, a chyfreithiwr o Ecwador oedd Francisco Javier Eugenio de Santa Cruz y Espejo (21 Chwefror 1747 – 27 Rhagfyr 1795) a oedd yn brif ddeallusyn ei wlad yn y cyfnod trefedigaethol ac yn ymgyrchydd brwd dros annibyniaeth.
Ganed yn Quito, Rhaglawiaeth Granada Newydd, yn fab i ŵr Quechua a mam fylato. Dysgodd ei hunan am feddygaeth drwy arsylwi ar y gwaith mewn ysbyty i ferched, ac yng Ngorffennaf 1767 derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol o Goleg San Fernando. Yn ddiweddarach, astudiodd am raddau yn y gyfraith sifil a'r gyfraith ganonaidd.[1]
Ysgrifennodd Espejo ar nifer fawr o bynciau, gan gynnwys economeg, meddygaeth, addysgeg, gwleidyddiaeth, cymdeithaseg, a diwinyddiaeth. Roedd sawl gwaith ganddo yn ddychanol neu yn bolemig, ac yn cyfleu gwrth-glerigiaeth a beirniadaeth o'r awdurdodau trefedigaethol yn Ecwador. Ymhlith ei weithiau nodedig mae El nuevo Luciano o despertador de ingenios (1779) a Reflexiones … acerca de un método seguro para preservar a los pueblos de las viruelas (1785).
Ym 1788 cafodd Espejo ei erlyn yn Bogotá am iddo wawdio'r Brenin Siarl III a José de Gálvez, gweinidog yr Indes, yn ei waith El retrato de Golilla. Llwyddodd i amddiffyn ei hun yn y llys yn erbyn y cyhuddiadau. Yn Bogotá, cyfarfu â dau benboethyn arall a oedd o blaid annibyniaeth i Granada Newydd: Antonio Nariño a Francisco Antonio Zea. Bu Nariño yn cynnal cyfarfodydd o chwyldroadwyr a newyddiadurwyr ifainc, gan gynnwys Zea, a chawsant ddylanwad ar daliadau radicalaidd Espejo. Pan ddychwelodd i Quito, cyd-sefydlodd Espejo y Sociedad Patriótica de Amigos del País de Quito ar 30 Tachwedd 1791, ac efe oedd golygydd papur newydd y gymdeithas, a'r papur newydd cyntaf yn Ecwador, Primicias de la Cultura de Quito (1792). Yn y cyfnod hwn hefyd fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y llyfrgell gyhoeddus gyntaf yn Ecwador, ac Espejo oedd un o sefydlwyr llyfrgell genedlaethol Ecwador, a enwir ar ei ôl.[1]
Yn Ionawr 1795 cafwyd Espejo yn euog o annog gwrthryfel yn erbyn Coron Sbaen. Cafodd salwch yn y carchar, a bu farw ychydig wedi iddo gael ei ryddhau.[1]