Eva Brunne | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mawrth 1954 Malmö |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, diwinydd |
Swydd | esgob |
Plaid Wleidyddol | Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden |
Esgob yn Eglwys Sweden yw Gerd Eva Cecilia Brunne (ganwyd 7 Mawrth 1954). Gwasanaethodd fel Esgob Stockholm o 2009 hyd 2019. Fe'i ganwyd a magwyd ym Malmö. Fe'i hordeiniwyd yn offeiriad yn 1978 a chysegrwyd yn esgob yn 2009. Hi yw esgob lesbiaidd agored cyntaf eglwys brif ffrwd yn y byd ac esgob cyntaf Eglwys Sweden i fod mewn partneriaeth gofrestredig o'r un rhyw.[1]