Fairbourne

Fairbourne
Mathpentref, cyrchfan lan môr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArthog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6969°N 4.0524°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH614130 Edit this on Wikidata
Cod postLL38 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Arthog, Gwynedd, Cymru, yw Fairbourne[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Yn anarferol iawn i bentrefi Gwynedd, nid oes enw Cymraeg arno. Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae'r Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "Morfa Henddol" cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw "Rowen" wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg. Ynys Faig oedd yr enw gwreiddiol ar y ran o'r pentref lle ceir y Fairbourne Hotel bellach.[3][4]

Saif Fairbourne ar bwys priffordd yr A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw. Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.

Ceir olion yr Ail Ryfel Byd yn y tywynni traeth, amddiffyniadau i rwystro tanciau, a elwir "Dannedd y Ddraig" yn lleol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[6]

Trafnidiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Glannau Cymru ac mae Rheilffordd y Friog yn arwain i'r de i gyfeiriad Tywyn. Gellir cael fferi dros yr afon i'r Bermo (Abermaw).

Rheilffordd y Friog

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. "History of Fairbourne Village | Return to the Ferry". www.return2ferry.co.uk. Cyrchwyd 2022-09-20.
  4. "Cymraeg". Coflein (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-20.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU