Fanny Parks | |
---|---|
Wynebddalen Wanderings of a Pilgrim... | |
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1794 Conwy |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1875 Dinas Westminster |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Awdur teithio Cymreig oedd Fanny Parks neu Parkes (g. Frances Susanna Archer) (8 Rhagfyr, 1794 - 21 Rhagfyr, 1875) [1]. Mae hi'n adnabyddus am gadw cyfnodolion helaeth am India drefedigaethol,[2] lle bu hi'n byw am bedair blynedd ar hugain. Cofnodir y rhain yn ei chofiannau Wanderings of a Pilgrim in Search of the Picturesque.[3] Ym 1970, daeth darnau o'i chofiannau, Begums Thugs a White Mughals ar gael am y tro cyntaf ers eu cyhoeddiad gwreiddiol ym 1850.[4] Cyhoeddwyd y cofiant cyntaf iddi, Fanny Parks: Intrepid Memsahib gan Barbara Eaton yn 2018.[5]
Ganwyd Fanny Parks yn Frances Susanna Archer, yng nhref Conwy yn ferch i Ann a'r Capten William Archer, 16eg Lancers. Ar Fawrth 25, 1822 priododd Charles Crawford Parks (17 Tachwedd 1797 - 22 Awst 1856), ysgrifennydd i Gwmni Dwyrain India.[5]
Roedd Fanny yn byw yn India rhwng 1822 a 1846 gydag egwyl yn Lloegr a Cape Town rhwng 1839 a 1844.[5] Dechreuodd Parks fyw yn Kolkata ym 1822, cyn symud i Allahabad ddeng mlynedd yn ddiweddarach oherwydd postiad ei gŵr. Ysgrifennodd Parks ddwy gyfrol am ei hamser yn teithio trwy India ar gefn ceffyl gan ddod yn gyfeillgar a'r pobl o'i chwmpas, wrth ddysgu Perseg, Hindustani ac Wrdw. Mae ei chofiannau manwl a ysgrifennwyd mewn arddull fywiog yn datgelu ei hannibyniaeth meddwl. Mae Parks yn caniatáu persbectif cyn-drefedigaethol serchog o ogledd India a'i phobloedd a'i harferion, gan gofnodi newidiadau yn llywodraeth Prydain yn India, effaith economaidd polisïau o'r fath, a phroblemau domestig yng nghymdeithas India, rhwng 1822 a 1845. Roedd y bobl y daeth Parks ar eu traws yn cynnwys cymdeithasu cyfoethog yn ogystal â thrigolion Kanauj oedd yn dioddef o newyn a weloddd yn ystod taith dros fynyddoedd o Landour i Shimla. Mae naratif Parks yn adlewyrchu ei hedmygedd a'i pharch at gyfoeth diwylliant India. Mae'r cofiant yn cynnwys geirfa o dermau a chasgliad o ddiarhebion Indiaidd wedi'u cyfieithu.
Mae rhai o ysgrifau Parks yn ymdrin â phynciau a oedd yn ddadleuol ar y pryd. Un o'r enghreifftiau mwyaf eithafol oedd marwolaeth menyw fel rhan o'r traddodiad sati (gweddw yn cael ei llosgi gyda'i gwr marw) gan y rhai a oedd yn teimlo bod gan etifeddion gwrywaidd fwy o hawl i'w heiddo. Condemniodd Parks y digwyddiad ac aeth ymlaen i feirniadu’r deddfau sy’n llywodraethu menywod priod yn Lloegr. Protestiodd Parks hefyd am gynllun i werthu’r Taj Mahal, gan ei gymharu a gwerthu Abaty Westminster. Gan wrthdaro â'r diffyg parch at ddiwylliant Indiai a gafwyd yn gyffredin yn Ewrop, disgrifiodd Parks harddwch naturiol yn Delhi a Varanasi yn ogystal â gwisg a bwyd hynod ddiddorol. Yn un o gofnodion olaf Parks, disgrifiodd deimlo ei bod wedi ymddieithrio ag Ewrop ar ôl gadael India.
Cyhoeddwyd y cofiannau fel Wanderings of a pilgrim, in search of the picturesque, during four-and-twenty years in the East; with revelations of life in the Zenana (Copi rhad ar safle web archive) cyhoeddwyd gan Pelham Richardson, Llundain ym 1850. Fe wnaeth William Dalrymple ailddarganfod a golygu'r teithlyfr hwn Begums, Thugs & Englishmen. The Journals of Fanny Parkes.[6] Cyfeiriodd Iris Portal at Parks fel “ysbryd caredig” oherwydd ei steil ysgrifennu chwilfrydig a’r ffaith bod ei llyfr yn mynegi agwedd meddwl agored tuag at arferion pobl India.
Yn 1851 buddsoddodd arian, trefnodd, ac ysgrifennodd gatalog yr arddangosfa "Grand moving diorama of Hindostan, from Fort William, Bengal, to Gangoutri in the Himalaya", a arddangoswyd yn yr "Oriel Asiatig, Baker Street Bazar, Portman Square. Roedd mor boblogaidd nes iddo gael ei ddangos hefyd yn Hull ym 1853.[7]