Fatima Whitbread | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1961 Stoke Newington |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | javelin thrower, hunangofiannydd |
Taldra | 168 centimetr |
Pwysau | 68 cilogram |
Gwobr/au | MBE, Bislett medal, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC |
Chwaraeon |
Mae Fatima Whitbread, MBE (ganwyd Vedad; 3 Mawrth 1961) yn daflwr gwaywffon Prydeinig wedi ymddeol. Torrodd record y byd gyda thafliad ym 1986. Enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Rhufain yn 1987.[1]
[2]
Cafodd ei geni yn Stoke Newington. Fe'i magwyd yn bennaf mewn cartrefi plant. Ar ôl plentyndod cynnar anodd, mabwysiadwyd hi gan ei athrawes Margaret Whitbread, hyfforddwr gwaywffon. Fel disgybl ysgol, cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 1978, lle gorffennodd yn chweched. Wedyn, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Iau Athletau Ewropeaidd 1979. Pencampwriaethau Athletau'r DU 1990 oedd ei digwyddiad olaf fel cystadleuydd. Enillodd Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ym 1987 a'r Wobr Helen Rollason yn 2023.[3]