AwduresAmericanaidd yw Faye Marder Kellerman (ganwyd 31 Gorffennaf1952) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdurnofelau dirgelwch. Hi sgwennodd y gyfres Peter Deerck/Rina Lazarus a'r gyfrolau The Quality of Mercy, Moon Music a Straight into Darkness.
Mynychodd Kellerman goleg yr UCLA lle enillodd B.A. ym mathemateg ym 1974. Bedair blynedd yn ddiweddarach derbyniodd ei gradd Doethuriaeth mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol. Fodd bynnag, nid yw erioed wedi ymarfer deintyddiaeth ac roedd yn wraig tŷ pan gyhoeddodd ei nofel gyntaf. Mae Kellerman yn Iddew Uniongred, fel y mae ei gŵr, y nofelydd Jonathan Kellerman a Jesse Kellerman, ei mab sydd hefyd yn nofelydd.
Mewn traethawd yn 1997 dywedodd nad yw'n gwybod pa bryd y trodd ei diddordeb o hylenydd geneuol i awdur ffuglen dditectif, ond ymhlith nifer o ffactorau a dross ei bryd tuag at ysgrifennu nofelau dirgelwch roedd: "yr awydd am gyfiawnder, natur amheus, dychymyg gorfywiog, ac, wrth gwrs, fy hoffter at bethau gwirion a gwahanol."[5]
Y Kellermans yw'r unig bâr priod erioed i ymddangos ar restr gwerthwr gorau New York Times ar yr un pryd (ar gyfer dau lyfr gwahanol).
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
↑Kellerman, Faye, essay in Small Miracles: Extraordinary Coincidences from Everyday Life, Adams Media Corporation, 1997, ISBN1-55850-646-2.