Fernando Alegría | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1918 Santiago de Chile |
Bu farw | 29 Hydref 2005 o methiant yr arennau Walnut Creek |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, beirniad llenyddol |
Swydd | diplomydd |
Cyflogwr |
|
Arddull | barddoniaeth, traethawd |
Mudiad | Generation of '38 |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Atenea |
Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, ac academydd o Tsile oedd Fernando Alegría (26 Medi 1918 – 29 Hydref 2005).
Ganwyd Fernando Alegría ar 26 Medi 1918 yn Santiago de Chile. Astudiodd ym Mhrifysgol Tsile, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Califfornia, Berkeley yn 1947.
Cyhoedodd ei nofel gyntaf, Recabarren, yn 1938. Ymhlith ei nofelau eraill mae Coral de guerra (1979), El paso de los gansos (1980), a La rebelión de los placeres (1990).[1]
Addysgodd yn Berkeley nes iddo symud i Brifysgol Stanford yn 1967, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1988, pryd cafodd ei benodi'n athro emeritws.
Er iddo ymsefydlu yng Nghaliffornia, cadwodd Alegría ei gysylltiadau â'i famwlad a bu'n teithio i Tsile pob blwyddyn. Yn sgil etholiad ei hen gyfaill Salvador Allende yn arlywydd y wlad yn 1970, penodwyd Alegría yn swyddog diwylliannol. Wedi'r coup d'état yn 1973, diddymwyd ei basport gan y llywodraeth filwrol a ni chafodd Alegría yr hawl i ddychwelyd i Tsile nes 1986. Fe sefydlodd gylchgrawn llenyddol ar gyfer ei gyd-Tsileaid alltud.[2]
Priododd â Carmen Letona Meléndez, myfyrwraig meddygaeth o El Salfador, yn 1943 a chawsant dwy ferch a dau fab. Bu farw Carmen yn 1994.[2]
Bu farw Alegría yn ei gartref yn Walnut Creek, ger Oakland, ar 29 Hydref 2005 o fethiant yr aren, yn 87 oed.[2][3]