![]() | |
Enghraifft o: | book fair, digwyddiad blynyddol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 18 Medi 1949 ![]() |
Lleoliad | Messe Frankfurt ![]() |
![]() | |
Enw brodorol | Frankfurter Buchmesse ![]() |
Rhanbarth | Frankfurt am Main ![]() |
Gwefan | https://www.book-fair.com/, https://www.buchmesse.de/ ![]() |
![]() |
Ffair Lyfrau Frankfurt [1] neu ceir hefyd Gŵyl Lyfrau Frankfurt (Almaeneg: Frankfurter Buchmesse) yw ffair gyhoeddi fwyaf y byd. Fe'i cynhelir bob blwyddyn am bum niwrnod yng nghanol mis Hydref yn Frankfurt am Main yn yr Almaen ac mae'n dwyn ynghyd tua 300,000 o ymwelwyr ar gyfer 7,000 o arddangoswyr.[2]
Mae’r ffair lyfrau wedi’i chynnal yn Frankfurt ers tua 500 mlynedd, pan ddyfeisiodd Johannes Gutenberg y wasg argraffu yn ninas Mainz, yn agos iawn at Frankfurt. Ond roedd Gutenberg yn adeiladu ar draddodiad hŷn. Hyd yn oed cyn dyfodiad y wasg argraffu roedd ffair fasnach Frankfurt yn lle adnabyddus am werthu llyfrau llawysgrif (codecs) gynhared â'r 12g.[3]
Daeth y ffair yn brif bwynt marchnata llyfrau, ond hefyd yn ganolbwynt ar gyfer lledaenu testunau ysgrifenedig. Yn ystod y Dadeni, mynychwyd y ffair gan fasnachwyr yn profi'r farchnad am lyfrau newydd a chan ysgolheigion a oedd yn chwilio am ysgoloriaeth newydd.[4]
Hyd at ddiwedd yr 17g, Ffair Lyfrau Frankfurt oedd y ffair lyfrau bwysicaf yn Ewrop. Cafodd ei oddiweddyd yn 1632 gan Ffair Lyfrau Leipzig yn ystod y Goleuedigaeth o ganlyniad i ddatblygiadau gwleidyddol a diwylliannol.[5]
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn Eglwys Sant Paul y cyfarfu tua 200 o lyfrwerthwyr yr Almaen i adnewyddu eu busnes yn 1949.
Yn gyntaf oll, trafod hawlfreintiau a dod o hyd i'ch hun "mewn teulu da" bob blwyddyn y cynhelir y ffair lyfrau yn Frankfurt. Y tri diwrnod cyntaf (Dydd Mercher i Ddydd Gwener) mae'r ffair yn hygyrch i ymwelwyr masnach yn unig, tra ar ddydd Sadwrn a dydd Sul mae'n hygyrch i unrhyw un. Mae gan ddarllenwyr ddiddordeb mawr yn y ffair oherwydd mae papurau newydd mawr yr Almaen yn cyhoeddi cyfresi arbennig yn delio â newyddbethau'r tymor ym mhob maes cyhoeddi, gan gynnwys gwyddoniaeth. Mae mwy na 12,000 o newyddiadurwyr o tua chant o wledydd yn ysgrifennu am y ffair
Yn aml, cyhoeddir Gwobr Nobel am Lenyddiaeth yn ystod y ffair, gan wneud y digwyddiad yn bwysicach fyth, i’r cyhoedd ac i’r cyhoeddwr ei hun.
Bydd cyhoeddwyr a sefydliadau Cymreig yn mynychu'r Ffair Lyfrau er blynyddoedd. Cafwyd presenoldeb yn 2018. Cafwyd cyfle i hyrwyddo gwaith nofelwyr megis Llwyd Owen, Manon Steffan Ros a'i nofel dyfodoliaeth, Llyfr Glas Nebo, Owen Sheers, Mihangel Morgan a mwy.[6] Yn 2020 bu stondin a phresenoldeb gan Cyfnewidfa Lên Cymru lle arddangoswyd cyhoeddiadau o Gymru, y mwyafrif yn y Saesneg. Roedd rhain yn cynnwys nofelau, llyfrau hanes a llyfrau am chwedloniaeth a llên gwerin Cymru. [7]
Denodd ffair 2007 feirniadaeth gan y cyfryngau Sbaeneg ac Almaeneg. Disgrifiodd cylchgrawn newyddion Almaeneg Der Spiegel fel un "agos ei feddwl" oherwydd ei bolisi o beidio â chynnwys y Catalaniaid niferus sy'n ysgrifennu yn Sbaeneg yn ei ddiffiniad o lenyddiaeth Gatalaneg.[8] Er gwaethaf hyn, gwnaed y penderfyniad i eithrio unrhyw elfen o "Sbaeneg", a ddiffinnir fel llenyddiaeth a wneir yn Sbaeneg yn unig, o'r ffair. o'r ffaith bod llywodraeth Sbaen wedi cyfrannu mwy na €6 miliwn tuag at gost y ffair.[9]
Bob blwyddyn, ceir gwestai anrhydeddus, hynny yw bod y pwyslais ar lenyddiaeth o wlad neu ranbarth neu gymuned ieithyddol arbennig. Yn y gorffennol, beiriniadwyd Twrci a China am broblemau gyda rhyddid gwleidyddol a mynegiant yn y gwledydd hynny.
Blwyddyn | Gwahoddiad Anrhydedd / Thema | Blwyddyn | Gwahoddiad Anrhydedd / Thema |
---|---|---|---|
1976 | America Ladin | 2002 | Lithwania |
1978 | Llenyddiaeth plant a phobl ifainc | 2003 | Rwsia |
1980 | Affrica is-sahara | 2004 | Y Byd Arabaidd |
1982 | Crefydd | 2005 | De Corea |
1984 | George Orwell | 2006 | India |
1986 | India | 2007 | Gwledydd Catalanaidd |
1988 | Yr Eidal | 2008 | Twrci |
1989 | Ffrainc | 2009 | China |
1990 | Japan | 2010 | Yr Ariannin |
1991 | Sbaen | 2011 | Gwlad yr Iâ |
1992 | Mecsico | 2012 | Seland Newydd |
1993 | Fflandrys ea'r Iseldiroedd | 2013 | Brasil |
1994 | Brasil | 2014 | Y Ffindir |
1995 | Awstria | 2015 | Indonesia |
1996 | Iwerddon | 2016 | Fflandrys a'r Iseldiroedd |
1997 | Portiwgal | 2017 | Ffrainc |
1998 | Swistir | [2018 | Georgia |
1999 | Hwngari | 2019 | Norwy |
2000 | Gwlad Pwyl | 2021 | Canada |
2001 | Gwlad Groeg | 2022 | Sbaen |
2023 | Slofenia | 2024 | Yr Eidal |