Enghraifft o'r canlynol | world's fair |
---|---|
Dyddiad | 1893 |
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1893 |
Daeth i ben | 30 Hydref 1893 |
Rhagflaenwyd gan | Exposition Universelle of 1889 |
Olynwyd gan | Brussels International Exposition (1897) |
Lleoliad | Chicago |
Yn cynnwys | World's Congress of Representative Women |
Lleoliad yr archif | University of Maryland Libraries |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Chicago |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Ffair y Byd Chicago (Saesneg: World's Columbian Exposition neu The Chicago World's Fair) yn ninas Chicago, UDA, yn 1893, i ddathlu 400 mlwyddiant glanio Christopher Columbus yn y Byd Newydd.[1] Curodd Chicago Ddinas Efrog Newydd, Washington, D.C. a St. Louis, Missouri i gael y fraint o lwyfannu Ffair y Byd. Cafodd y ffair effaith sylweddol ar bensaernïaeth, y celfyddydau, delwedd Chicago, ac optimisiaeth mewn diwydiant yn yr Unol Daleithiau.
Neilltuwyd 600 erw ar gyfer yr arddangosfa 600 acres, gyda 200 o adeiladau newydd yn yr arddull glasurol, camlesi a llynnoedd artiffisial, a safleoedd i bobl a diwylliannau o bedwar ban y byd. Ymwelodd tua 27 miliwn o bobl (tua hanner poblogaeth yr Unol Daleithiau) â'r ffair yn ystod y chwe mis y bu'n rhedeg (o 1 Mai hyd 30 Hydref, 1893). O ran ei maint a'i rhwysg, roedd y ffair yn rhagori'n hawdd ar ffeiriau'r byd cynharach, a daeth i gynrychioli ysbryd arwahanrwydd newydd yr Unol Daleithiau ac yn symbol o'i hunaniaeth gyfoes. Un o'r artistiaid a gafodd arddangosfa arbennig yno oedd y cerflunydd o Gymro Dafydd Richards (1829 - 1897). Roedd yn gyfle hefyd i ddinas Chicago, a ddinistrwyd bron yn Nhân Mawr Chicago, 1871, ddangos i weddill yr Unol Daleithiau a'r byd ei bod wedi atgyfodi o'r lludw.
I gydfynd â'r arddangosfa, trefnwyd Eisteddfod Ffair y Byd gan Americanwyr Cymreig y ddinas. Llwyfanwyd yr eisteddfod ger safle'r ffair ei hun, a denwyd miloedd i gael blas ar ddiwylliant Cymraeg.