Cylchgrawn syml yw ffansîn, yn aml at ddiddordeb neilltuol a chyfyng iawn, gan amlaf ym maes diwylliant poblogaidd e.e. grwpiau pop, pêl-droed, gwleidyddiaeth a chelf.
Mae'r gair Cymraeg yn Gymreigiad o'r Saesneg 'fanzine' - 'fan' + zine (yr awgrym o magazine). Bathwyd y term Saesneg yn Hydref 1940 ar gyfer ffansîn ffuglen wyddonol gan Russ Chauvenet ac yna mabwysiadwyd yr enw a'r syniad gan gymunedau â diddordebau eraill, maes o law.
Caiff rhifynau o'r ffansîns eu hysgrifennu â llaw, gydag erthyglau wedi eu teipio â llaw â'u gludo ar y dudalen ac yna yn aml eu dyblygu yn hytrach na'u hargraffu.
Addaswyd natur amrwd, rhad a llac yr arddull gan y Sîn Roc Gymraeg ac felly hefyd safon ei hiaith.
Un o ladmeryddion cyntaf ffansîns yn y Gymraeg oedd Rhys Mwyn, cyn ganwr grwp pync Yr Anhrefn. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd rhifynau o Llygredd Moesol o'i gartref yn Llanfair Caereinion yng nghanol y 1980au.
Bu natur wleidyddol yn ogystal â cherddorol Llygredd Moesol, yn nodwedd o ffansîns Cymraeg erioed gyda nifer ohonynt yn rhan o gennad elfennau o'r mudiad cenedlaethol megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru. Roedd y ffaith mai yn yr 1980au a'r 1990au yr oedd y ffansîns ar eu hanterth yn rhannol gyfrifol eu bod hefyd yn cynnwys elfen 'gwrth-sefydliadol' ac felly yn erbyn y llywodraeth Geidwadol Brydeinig ar y pryd.
Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, blogiau, ebyst ac yna Facebook a Twitter, ystyriwyd fod argraffu a phostio ffansîn yn orchwyl rhy llafurus a drud a bu lleihâd yn eu nifer.
Archifir nifer o'r ffansîns yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.