Mudiad yn 2001 i geisio hybu pobl i ysgrifennu "Jedi" neu "Jedi Knight" fel ei crefydd yn y cyfrifiad gwladol oedd y Ffenomen cyfrifiad Jedi. Roedd yr ymgyrch yn seiliedig ar nifer o e-bostiau gylchredol a oedd yn hawlio y byddai llywodraethau yn cydnabod y ffug-grefydd o'r ffilmiauStar Wars fel gwir grefydd pe bai digon o bobl yn cofnodi "Jedi" fel eu crefydd yn y cyfrifiad gwladol. Dehonglwyd y ffenomen yma ar led yn y newyddion fel cast enfawr i fychanu'r cyfrifiad. Bu'r ffenomen yn fwyaf cyffredin yng ngwledydd y gymanwlad Prydeinig fel Awstralia, Canada, Seland Newydd, Cymru a Lloegr.