![]() | |
Enghraifft o: | ffordd dosbarth A ![]() |
---|---|
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Swydd Stafford, Swydd Gaer, Swydd Amwythig ![]() |
Hyd | 73 milltir ![]() |
![]() |
Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhan o Loegr yw'r A525. Mae'n cysylltu'r Rhyl a Newcastle-under-Lyme,Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr.
O'r Rhyl, mae'n arwain tua'r de, ac yn troi'n ffordd osgoi ddeuol heibio Rhuddlan. Wedi croesi'r A55 ger Llanelwy, mae'n dilyn Afon Clwyd tua'r de, ychydig i'r gorllewin o'r afon. Ychydig i'r de o Rhuthun, mae'n troi tua'r dwyrain, ac yn mynd trwy Wrecsam cyn croesi'r ffin i Loegr ychydir i'r gorllewin o'r Eglwys Wen yn Swydd Amwythig. Wedi cyd-redeg a'r A41 am ychydig ar hyd ffordd osgoi'r Eglwys Wen, mae'n ymwahanu ac yn arwain i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain i groesi'r M6 a chyrraedd Newcastle-under-Lyme, lle mae'n ymuno â phriffordd yr A34.