![]() | |
Enghraifft o: | bom mewn cerbyd ![]() |
---|---|
Dyddiad | 24 Ebrill 1993 ![]() |
Lladdwyd | 1 ![]() |
Rhan o | yr Helyntion ![]() |
Lleoliad | Bishopsgate ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Dinas Llundain ![]() |
![]() |
Ymosodiad terfysgol gan Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (PIRA) ar Ddinas Llundain oedd ffrwydrad Bishopsgate ar 24 Ebrill 1993. Ffrwydrodd y bom mewn lori yn Bishopsgate, un o brif ffyrdd trwodd y Ddinas. Bu farw un ac anafwyd 44 o bobl, ac achoswyd £350 miliwn o ddifrod.[1]
Cafodd y bom, a oedd yn cynnwys un dunnell o ffrwydron, ei osod mewn lori godi a gafodd ei chipio gan y PIRA a'i pharcio tu allan i adeilad HSBC yn 99 Bishopsgate, ger cyffordd Bishopsgate a Wormwood Street. Un awr cyn i'r bom ffrwydro, defnyddiwyd ciosg ffôn yn Forkhill, Swydd Armagh naw gwaith i rybuddio'r heddlu, a dechreuwyd symud pobl o'r ardal.[2] Ffrwydrodd y bom, a wnaed o amoniwm nitrad a thanwydd, am 10:27 o'r gloch y bore. Lladdwyd ffotograffydd i'r News of the World, Edward Henty, a anwybyddodd y gorchymyn i adael yr ardal.[3] Difrodwyd adeiladau o fewn 500 o lathenni, gan gynnwys Tŵr NatWest a gorsaf reilffordd Liverpool Street, a dinistriwyd Eglwys y Santes Ethelburga yn llwyr.[1]
Mewn ymateb i'r ymosodiad hwn, a ffrwydrad arall yn St Mary Axe yn Ebrill 1992, adeiladwyd system diogelwch o'r enw "cylch dur" (yn swyddogol y Parth Traffig ac Amgylcheddol) o amgylch Dinas Llundain.[1] Newidiwyd y mwyafrif o ffyrdd y Ddinas yn allanfeydd yn unig, a rhoddwyd heddweision ar bob un ffordd arall i mewn i'r Ddinas am bob awr o'r dydd.[4]