Math o gyfrwng | ffrwydrad, lladdiad torfol, saethu cyfeillgar, cyrch awyr |
---|---|
Dyddiad | 17 Hydref 2023 |
Rhan o | ymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024, Gaza genocide, Rhyfel Gaza |
Lleoliad | Ysbyty al-Ahli, Al-Zaytun |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Llain Gaza |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 17 Hydref 2023, yn ystod Rhyfel Gaza a gychwynnodd y mis hwnnw, bu ffrwydrad yng nghowrt Ysbyty al-Ahli yn ninas Gaza,[1] lle'r oedd miloedd o Balesteiniaid a ddadleolwyd gan y rhyfel yn llochesu.[2] Lladdwyd 471 yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza.[3]
Mae anghytundod ynghylch achosiad y ffrwydrad. Dywedodd Hamas, llywodraeth Llain Gaza, y cafodd yr ysbyty ei fomio mewn cyrch awyr gan yr Israeliaid, gan ei alw'n 'drosedd rhyfel'. Yn ôl Israel, achoswyd y ffrwydrad gan roced a daniwyd gan Fudiad Jihad Islamaidd Palesteina.[4] Cefnogodd arlywydd Unol Daleithiau America, Joe Biden, ddehongliad Israel o'r digwyddiad.[5]