Frances Parker | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1875 ![]() Otago ![]() |
Bu farw | 19 Ionawr 1924 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, swffragét ![]() |
Tad | Harry Rainy Parker ![]() |
Mam | Frances Emily Jane Kitchener ![]() |
Gwobr/au | Medal y Swffragét, OBE ![]() |
Swffragét a ffeminist rhonc o Seland Newydd oedd Frances Mary "Fanny" Parker (24 Rhagfyr 1875 - 19 Ionawr 1924) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ac am iddi dderbyn cyfnodau o garchar am ei chred a'i gweithredu milwriaethus dros hawliau menywod.
Fe'i ganed yn Otago ar 24 Rhagfyr 1875 a bu farw yn Arcachon, ger Bordeaux yn 1924.[1]
Ganwyd Frances Parker yn Little Roderick, Kurow, Otago, Seland Newydd, yn un o bump o blant Frances Emily Jane Kitchener a Harry Rainy Parker. Roedd ei theulu'n byw yn y Waihao Downs Homestead o 1870 i 1895, pan symudon nhw i Little Roderick. Mae Little Roderick yn rhan o Station Peak ar ochr ogleddol Afon Waitaki, Waimate District (nid yn Kurow). Daeth Parker o gefndir cefnog ac roedd yn nith i'r Cadlywydd Arglwydd Kitchener (Field-Marshal Lord Kitchener) a dalodd am ei haddysg yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Byddai ei hewythr enwog yn ddiweddarach yn datgan fod ymwneud â mudiad hawliau merched yn ei ffieiddio.[2][3][4] [5][6]
Ymfudodd Parker i Loegr, lle cychwynodd ymgyrchu dros etholfraint, yn wreiddiol, gydag Undeb Etholfraint Prifysgolion yr Alban, ac yna gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, dan arweiniad Emmeline Pankhurst a daeth yn drefnydd llawn amser y mudiad hwnnw yng ngorllewin yr Alban yn 1912.[7]
Yn 2016 prynodd Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa fedal swffragét Parker, sef y 'Medal am Ddewrder' a roddwyd gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod. Credir mai hwn yw'r unig fedal swffragét gyda chysylltiad Seland Newydd.[7]
Cymerodd Parker ran mewn gweithredoedd milwriaethus a chafodd ei charcharu sawl gwaith. Treuliodd chwe wythnos am 'rwystr' yn 1908 yn dilyn protest. Yn ddiweddarach, ym mis Mawrth 1912, cafodd ei dedfrydu i bedwar mis yng Ngharchar Holloway ar ôl cymryd rhan mewn cyrch chwalu ffenestri a drefnwyd gan y WSPU. Fel llawer o swffragetiaid aeth ar streic newyn (neu 'ympryd') a gorfodwyd hi i fwyta, gan yr heddlu. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd ei charcharu ddwywaith, unwaith am dorri ffenestri, ac unwaith am dorri i mewn i'r Neuadd Gerdd yn Aberdeen gyda'r bwriad o darfu ar ymddangosiad y Prif Weinidog David Lloyd George. Ar y ddau achlysur cafodd ei rhyddhau ar ôl mynd ar streic newyn am sawl diwrnod.
Erbyn 1914 roedd y mudiad dros etholfraint yn mynd yn fwyfwy treisgar, gyda llawer o adeiladau ledled Prydain yn cael eu bomio a'u llosgi. Yng Ngorffennaf y flwyddyn honno, ceisiodd Parker a chyd-ymgyrchydd, Ethel Moorhead roi Burns Cottage yn Alloway ar dân. Roedd gwyliwr ar ddyletswydd, ac er i Moorhead ddianc, cafodd Parker ei dal, a'i harestio. Tra yn y ddalfa, aeth ar streic newyn a syched. Gan wybod nad oedd llawer o siawns o'i hail-ddal pe bai'n cael ei rhyddhau, gorfoddodd awdurdodau'r carchar iddi gymryd bwyd a diod mewn dull hynod o greulon: drwy ei phen ôl, ga ei chleisio'n ddifrifol. Roedd hi'n ddifrifol wael pan gafodd ei rhyddhau o'r diwedd i gartref nyrsio dan wyliadwraeth, ond llwyddodd i ddianc. Cyn iddi gael ei dal, dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth yr ymgyrchu milwriaethus i ben pan roddwyd amnest i swffragetiaid.