Francesco Filelfo | |
---|---|
Ganwyd | 25 Gorffennaf 1398 Tolentino |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1481 Fflorens |
Dinasyddiaeth | March of Ancona |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, academydd, diplomydd, bardd, areithydd, athronydd, ieithegydd clasurol, dyneiddiwr, llenor, copïwr |
Cyflogwr |
|
Plant | Gianmario Filelfo |
Ysgolhaig a bardd o'r Eidal a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Francesco Filelfo (1398 – 1481) sydd yn nodedig am gasglu llawysgrifau Groeg clasurol.
Ganed ef yn Tolentino yng Ngororau Ancona, yng nghanolbarth yr Eidal, a oedd ar y pryd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Astudiodd y gyfraith a rhethreg ym Mhrifysgol Padova, a bu'n athro yno am gyfnod. Teithiodd i Gaergystennin ym 1420 i berffeithio'i grap ar yr iaith Roeg. Treuliodd saith mlynedd yng Nghaergystennin yn astudio Groeg dan yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras, a phriododd â Theodora, merch Chrysoloras. Dychwelodd Filelfo i Fenis ym 1427 gyda'i theulu a helfa fawr o destunau Groeg.[1]
Penodwyd Filelfo yn athro rhethreg ac athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Bologna ym 1428. Symudodd i Brifysgol Fflorens ym 1429, a denodd nifer fawr o wrandawyr i'r ddarlithoedd ar awduron Groeg, gan gynnwys dinasyddion amlwg megis Cosimo de’ Medici, Palla Strozzi, a Leonardo Bruni. Collodd ffafr Cosimo ym 1431, ac ym 1433 bu ymdrech i'w ladd. Pan ddychwelodd y Medici i rym ym 1434, ffoes Filelfo o Fflorens. Addysgodd yn Siena o 1435 i 1438 ac yno goroesodd Filelfo gais arall i'w lofruddio.[1]
Ym 1439 cafodd Filelfo ei benodi yn bardd llys i Ddug Milan ac yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Padova. Am weddill ei oes, bu dan nawddogaeth y Visconti a'r Sforza, dugiaid Milan. Cyfieithodd sawl testun Groeg i Ladin, ac ysgrifennodd y dychangerddi Horasaidd Satyrae, ymgomion, arwrgerdd yn arddull Fyrsil o'r enw Sforziad, sawl casgliad o lythyron a cherddi, a thraethawd ar bwnc athroniaeth foesol.[1]