François-Joseph Gossec | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Ionawr 1734 ![]() Vergnies ![]() |
Bu farw | 16 Chwefror 1829 ![]() Passy ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, fiolinydd, arweinydd ![]() |
Swydd | opera director ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Thésée, Gavotte in D Major, RH 318 ![]() |
Arddull | opera, symffoni ![]() |
Mudiad | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur ![]() |
Cyfansoddwr o Ffrainc oedd François-Joseph Gossec (17 Ionawr 1734 – 16 Chwefror 1829), a oedd yn cyfansoddi operau, pedwarawd llinynnol, symffonïau a gweithiau corawl yn Ffrainc.
Roedd Gossec yn fab i ffermwr, ganwyd ym mhentref Vergnies, yn Hainaut, a oedd yn Ffrengig ar y pryd, ond sy'n ran o Wlad Belg erbyn hyn. Wedi dangos blas cynnar ar gerddoriaeth, daeth yn fachgen-côr yn Antwerp. Aeth i Baris ym 1751 a cymerwyd ef ymlaen gan y cyfansoddwr Jean-Philippe Rameau. Olynodd Rameau fel arweinydd cerddorfa bychan breifat fermier général Le Riche de La Poupelinière, amatur cyfoethog a noddwr mawr o gerddoriaeth, ac yn raddol daeth Gossec yn benderfynnol o wneud rhywbeth i adfywio'r astudaeth o gerddoriaeth offerynnol yn Ffrainc.
Perfformiwyd symffoni cyntaf Gossec ym 1754, ac fel arweinydd cerddorfa Prince de Condé cynhyrchodd sawl opera a chyfansoddiadau eraill ei hun. Bu'n hynod o lwyddiannus yn dylanwadu cerddoriaeth Ffrengig. Perfformiwyd ei Requiem am y tro cyntaf ym 1760, darn naw deg munud o hyd a drodd ef yn enwog dros nos. Cafodd y darn hwn ei edmygu'n ddiweddarach gan Wolfgang Amadeus Mozart, a ymwelodd â Gossec yn ystod taith anllywddianus i Baris ym 1778, a disgrifiodd Gossec iw dad fel "cyfaill da iawn a dyn sych iawn".
Sefydlodd Gossec y Concert des Amateurs ym 1770 ac ym 1773 ail-drefnodd y Concert Spirituel ynghyd â Simon Leduc a Pierre Gaviniès. Yn y cyfres hwn o gyngherddi, cyflwynodd ac arweiniodd ei symffonïau ei hun yn ogystal â rhai ei gyfoeswyr, yn arbennig gweithiau Joseph Haydn, daeth cerddoriaeth Haydn yn fwy poblogaidd ym Mharis, gan ddisodli gwaith symffoni Gossec yn y pen draw. Yn ystod yr 1780au, lleihaodd y nifer o symffonïau a gyfansoddodd Gossec gan iddo ganolbwyntio ar operau. Trefnodd yr École de Chant ym 1784, ynghyd â Étienne Méhul, a bu'n arweinydd band y Garde Nationale yn y Chwyldro Ffrengig. Apwyntiwyd ef (ynghyd â Méhul unwaith eto, a Luigi Cherubini) yn arolygwr y Conservatoire de Musique ar ei sefydliad ym 1795. Roedd yn aelod gwreiddiol o'r Institut ac yn chevalier yn y Légion d'honneur. Ym 1815, wedi gorchfygiad Napoleon yn Waterloo, caewyd y Conservatoire am gyfnod gan Louis XVIII, a bu'n raid i Gossec ymddeol yn 81 oed. Hyd 1817, bu'n gweithio ar ei gyfansoddiad olaf, trydydd Te Deum, a cefnogwyd ef gan bensiwn a roddwyd iddo gan y Conservatoire.
Bu farw yn ardal Passy, Paris. Mynychwyd wasanaeth ei angladd gan gyn-gydweithwyr, gan gynnwys Cherubini, ym mynwent Père Lachaise, Paris. Lleolir ei fedd yn agos i rai Méhul a Grétry.
Mae rhai o'i dechnegau yn ymddangos fel petaent wedi rhagweld datblygiadau newydd yr oes Ramantus: ysgrifennodd Te Deum ar gyfer 1200 o gantorion a 300 o offerynnau chwyth; mae sawl oratorïau yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanu sawl côr yn gorfforol, gan gynnwys rhai cudd tu ôl i'r llwyfan. Ysgrifennodd sawl llyfr i anrhydeddu'r Chwyldro Ffrengig, gan gynnwys Le Triomphe de la République, a L'Offrande à la Liberté.
Er y buasai gan y rhanfwyaf o bobl drafferth yn adnabod Gavotte Gossec oddi wrth y teitl, mae'r felodi ei hun yn gyfarwydd yn yr Unol Daleithiau oherwydd i Carl Stalling ddefnyddio trefniant yng nghartwnau Warner Brothers.
Nid oedd yn adnabyddus iawn y tu allan i Ffrainc, ac mae ei gyfansoddiadau niferus, sanctaidd a seciwlar, wedi cael eu cysgodi gan weithiau cyfansoddwyr mwy enwog; ond roedd Gossec yn ysbrydoliaeth i nifer, ac roedd yn ysgogiad cryf i adfywiad cerddoriaeth offerynnol.