Fred Figglehorn | |
---|---|
Cymeriad FЯED | |
Ymddangosiad cyntaf | Fred on Halloween |
Crëwyd gan | Lucas Cruikshank |
Portreadwyd gan | Lucas Cruikshank |
Gwybodaeth | |
Rhyw | Gwryw |
Oed | 9 oed (15 oed yn ei ffilm) |
Geni | 4 Gorffennaf, 1986 |
Galwedigaeth | Disgybl |
Teulu | Mam, Tad, Mam-gu |
Crefydd | Cristion |
Cenedligrwydd | Americanaidd |
IMDb profile |
Cymeriad ffug yw Frederick "Fred" Figglehorn (hefyd FЯED) sy'n cael ei bortreadu gan yr actor Americanaidd Lucas Cruikshank. Creodd Cruikshank, sy'n enedigol o Columbus, Nebraska, ei gymeriad ar gyfer ei sianel YouTube.[1] Mae'r fideos yn amlygu bywyd Fred Figglehorn, bachgen ffuglennol 6 oed a'i fywyd yn ogystal â'i broblemau'n rheoli dicter.[2]
Cyflwynodd Cruikshank ei gymeriad Fred Figglehorn yn fideos JKL Productions, sianel YouTube mae Cruikshank wedi creu gyda'i gefndyr John a Katie Smet. Sefydlodd y tri ohonynt eu sianel JKL Productions ar 11 Mehefin 2006 a ffilmiodd Cruikshank ei fideo Fred cyntaf ar 30 Hydref 2006. Ar 30 Ebrill 2008 symudwyd y fideos Fred i'r sianel newydd, Fred, ac ar 1 Mai, rhyddhawyd y fideo swyddogol cyntaf "Fred on Mai Day". Mae rhywun arall wedi perchen ar y sianel cyn Cruikshank ac mae hyn wedi dod un o'r jôcs cylchol yn y fideos. Erbyn Ebrill 2009, roedd mwy na filiwn tanysgrifwyr gyda'r sianel, y sianel gyntaf i ennill hyn.[3]
Hyd Awst 2011, cafodd y sianel Fred fwy na 116 miliwn golwg, mwy na 813 miliwn golwg fideos ers ei lansiad, a mwy na 2.2 filiwn tanysgrifwyr.[4] Ymddangosodd Cruikshank amryw weithiau ar deledu fel ein hun ac fel Fred. Cafodd lais Cruikshank ei olygu'n ddigidol i greu llais uchel-draw Fred.
Ym mis Rhagfyr 2009, ffilmiodd Cruikshank Fred: The Movie sydd wedi'i darlledu ar Nickelodeon ar 18 Medi 2010. Creodd Nickelodeon fasnachfraint am y cymeriad ac wedi dechreuodd ar ddilyniant i'r ffilm ym mis Mawrth 2011.[5][6][7]
Mae Cruikshank wedi disgrifio'r sianel fel "rhaglenni i blant gan blant". Cred Cruikshank fod gwylwyr "yn caru Fred yn awtomatig neu'i gasáu'n awtomatig".[8] Mae'r fideos yn cynnwys y cymeriad yn siarad â'r gynulleidfa am ei fywyd. Mae gan Fred lais uchel-draw (neu lais 'gwiwer resog') i gyfleu ei oed ifanc, 6 oed yw ef. Mae Cruikshank yn gwneud hyn trwy gyflymu'r fideos.[9] Defnyddiwyd y gân "Watch How I Do This" gan Kev Blaze yn llawer o'r fideos yn yr ail gyfres Fred.
Mae'r cymeriad yn byw gyda'i fam alcoholaidd sydd yn adict cyffuriau gwella hefyd, clywir ei llais yn aml; ei fam-gu, ac yn fyr, Claudio, ddyn sy'n Fred yn cyfeirio ato fel "it". Yng nghyfresi un i dri, cyfathrebodd Fred gyda chymeriadau eraill oddi ar y sgrîn, yn siarad dim ond ag anifeiliaid ar y sgrîn. Ar yr episod cyntaf Fred, "Fred on Halloween", portreadwyd mam Fred gan Cruikshank. Mae'n awgrymu bod Fred wedi bod yn dioddef cam-drin plant (er enghraifft, cafodd Fred ei gloi mewn cawell ci am dri diwrnod) ond mae'n siarad yn aml am ei gariad at ei fam, yn arbennig ar ôl iddi fynd i ganolfan adferiad. Mae tad Fred wedi'i sôn amryw weithiau, mae ar res marwolaeth ym mhenydfa'r dalaith. Nid yw Fred wedi cwrdd â'i dad am adawodd ei dad Mrs. Figglehorn pan oedd yn feichiog.
Mae'r gyfres yn defnyddio 'llinell amser arnofio' sydd yn golygu bod y straeon, bob amser, yn cael eu cynnal yn y flwyddyn gyfredol felly mae Fred yn 6 oed yn barhaus. Mae Fred yn ffansïo merch, Judy, sydd yn ei ddosbarth yn yr ysgol feithrin. Mae Fred wedi disgrifio Judy fel "so mean... yet so attractive". Sonnir mam-gu Fred am ofalu am Fred pan oedd ei fam i ffwrdd. Yn y rhan fwyaf o episodau, mae Fred yn canu cân ei fod wedi'i gwneud. Roedd yn glir o'r dechrau'r gyfres bod problemmau'n rheoli dicter gan Fred a rhaid iddo gymryd meddyginiaeth.
Gwelwn gymeriadau eraill am y tro cyntaf fewn dilyniant breuddwyd. Yn yr episod "Fred: A Star in his Own Mind", mae Fred yn breuddwydio am fod yn actor enwog, yn cwrdd â chefnogwyr benywaidd ac ag actorion enwog eraill. Ers y bedwaredd gyfres, ar ôl ffilmiwyd Fred: The Movie, ffilmir y cyfresi mewn ansawdd uwch ac ymddangosir fwy cymeriadau ar y sgrîn.
Cyfres/ Episod |
Teitl | Dyddiad rhyddhau | Golygon (mewn miliynau) |
---|---|---|---|
1.11 | "Fred on Halloween" | Hydref 30, 2006 | 13.6 |
0.02 | "Fred on Saint Patrick's Day" | Mawrth 15, 2007 | 5.4 |
0.03 | "Fred Goes to the Park" | Ebrill 19, 2007 | 14 |
0.04 | "Fred on the 4th" | Gorffennaf 3, 2007 | 8.1 |
1.12 | "Fred on Halloween 2" | Hydref 30, 2007 | 6.3 |
0.07 | "Fred on Christmas" | Rhagfyr 21, 2007 | 10.5 |
0.08 | "Fred on Valentine's Day" | Chwefror 10, 2008 | 9.6 |
1.01 | "Fred on Mai Day" | Mai 1, 2008 | 16.2 |
1.02 | "Fred Loses His Meds" | Mai 8, 2008 | 34.1 |
1.03 | "Fred Gets Bullied" | Mai 15, 2008 | 19.8 |
1.04 | "Fred Gets Detention" | Mai 22, 2008 | 21.9 |
1.05 | "Fred Goes to the Dentist" | Mai 29, 2008 | 28.5 |
1.06 | "Fred Stalks Judy" | Mehefin 5, 2008 | 18.3 |
1.07 | "Fred on Father's Day" | Mehefin 12, 2008 | 11.6 |
1.08 | "Fred Goes Swimming" | Mehefin 19, 2008 | 53.7 |
1.09 | "Fred Meets Bertha" | Mehefin 26, 2008 | 12.7 |
1.10 | "Fred's Mom is Missing" | Gorffennaf 3, 2008 | 16.7 |
2.01 | "Fred's Grandma Has a Secret" | Awst 21, 2008 | 9.5 |
2.02 | "Fred Goes Camping" | Awst 28, 2008 | 9.4 |
2.03 | "Fred Auditions for a Play" | Medi 4, 2008 | 7.8 |
2.04 | "Fred's Mom Returns" | Medi 11, 2008 | 6.7 |
2.05 | "Fred: A Star in his Own Mind" | Medi 18, 2008 | 6.7 |
2.06 | "Fred Sneaks into Judy's Party" | Medi 25, 2008 | 14.8 |
2.07 | "Fred Tries to Ride a Bike" | Hydref 3, 2008 | 17 |
- | "FRED WANTS TO BE A STAR!! (City of Fred?!)" | Hydref 4, 2008 | 7.7 |
2.08 | "Fred Runs for President!" | Hydref 9, 2008 | 8.7 |
2.09 | "Fred Faces a Dirty Campaign" | Hydref 18, 2008 | 5.5 |
2.10 | "Fred on Election Day" | Hydref 23, 2008 | 6.6 |
- | "Kev Blaze feat. FRED - "Watch How I Do This (remix)"" | Hydref 30, 2008 | 6.7 |
3.01 | "Fred on Thanksgiving" | Tachwedd 26, 2008 | 9.5 |
- | "Fred on iCarly" | Chwefror 10, 2009 | 18 |
3.02 | "Fred Rescues the Neighbourhood Squirrels" | Chwefror 19, 2009 | 14.3 |
3.03 | "Fred Cooks for Judy" | Mawrth 8, 2008 | 12.6 |
3.04 | "Fred on April Fool's Day" | Ebrill 1, 2009 | 11.6 |
- | "One Million Sunscribers" | Ebrill 7, 2009 | 5.6 |
3.05 | "Fred Goes to the Doctor" | Ebrill 30, 2009 | 9.8 |
3.06 | "Fred Throws a Party" | Mai 21, 2009 | 9.3 |
3.07 | "Fred Gets Dissed at Bible School" | Mehefin 4, 2009 | 7.6 |
3.08 | "Fred Works Out" | Mehefin 18, 2009 | 12.7 |
3.09 | "Fred Tries Dancing" | Gorffennaf 9, 2009 | 6.7 |
- | "Fred Talks About Teen Choice Awards" | Gorffennaf 23, 2009 | 2.4 |
3.10 | "Fred Sees a Therapist" | Gorffennaf 30, 2009 | 7.2 |
3.11 | "Fred Goes on a Date With Judy" | Awst 20, 2009 | 10.3 |
3.12 | "Fred Has a Vocal Lesson" | Medi 3, 2009 | 5.3 |
3.13 | "Fred Goes Fundraising" | Medi 18, 2009 | 5.5 |
3.14 | "Fred Gives Advice" | Hydref 8, 2009 | 3.7 |
3.15 | "Fred Finds a Creepy Doll" | Hydref 22, 2009 | 10.4 |
- | "Fred Talks About His Christmas Music" | Tachwedd 4, 2009 | 1.7 |
- | "Fred Figglehorn - Christmas Cash" | Tachwedd 10, 2009 | 17.9 |
- | "Fred - Christmas is Creepy" | Rhagfyr 7, 2009 | 23.3 |
3.16 | "Fred Has a Snow Day" | Ionawr 14, 2010 | 9.8 |
3.17 | "Fred Goes to a School Dance" | Ionawr 14, 2010 | 9.8 |
3.18 | "Fred Gets a Letter From His Dad" | Chwefror 26, 2010 | 8.1 |
4.01 | "Fred Stays in a Fancy Hotel Room" | Ebrill 27, 2010 | 13.6 |
4.02 | "Fred Gets a Haircut" | Mai 27, 2010 | 14.1 |
4.03 | "Fred Goes Reporting" | Mehefin 10, 2010 | 9.4 |
4.04 | "Fred Goes Grocery Shopping! Feat. Annoying Orange!" | Mehefin 24, 2010 | 30.6 |
4.05 | "Fred Works at a Tattoo Shop!" | Gorffennaf 8, 2010 | 7.8 |
4.06 | "Fred's Summer Halloween" | Gorffennaf 22, 2010 | 4.2 |
4.07 | "Fred Goes to the Movies!" | Awst 5, 2010 | 8.3 |
- | "Fred: The Movie" Official Clip - "Fred Gets Advice From His Dad About Women" | Awst 17, 2010 | 5.8 |
- | "Nobody Believes Fred" | Awst 26, 2010 | 2.6 |
- | "Fred Figglehorn - Don't Forget to Brush - Official Music Video" | Awst 31, 2010 | 3.8 |
4.08 | "Ted Tigglecorn Interviews Fred Figglehorn" | Medi 9, 2010 | 1.8 |
4.09 | "Fred and Weezer Go to the Moon" | Medi 13, 2010 | 3.6 |
- | "Fred's First Video Contest" | Medi 16, 2010 | 1.3 |
- | "Fred Figglehorn - Who's Ready to Party? - Official Music Video" | Medi 19, 2010 | 3.4 |
- | ""Fred: The Movie" - DVD Trailer With Fred" | Medi 29, 2010 | 1.7 |
- | "Fred Video Contest Winner and Party Clips" | Hydref 5, 2010 | 1 |
- | "Fred Figglehorn - The Babysitter's a Vampire - Official Music Video" | Hydref 20, 2010 | 6.5 |
- | "Fred Figglehorn - Tater Haters - Official Music Video" | Tachwedd 2, 2010 | 3.3 |
- | "Some News!...from some creeper named Lucas"" | Tachwedd 18, 2010 | 1.1 |
- | "DOUG - Doug Derky's First Video Blog" | Tachwedd 20, 2010 | 1.8 |
- | "FRED: The Movie - Official UK Trailer - In Cinemas Dec. 17" | Tachwedd 29, 2010 | 0.4 |
- | "Fred Babysits a Psycho" | Rhagfyr 4, 2010 | 5.1 |
- | "Message from Fred to Everyone in the UK & Ireland" | Rhadfyr 15, 2010 | 0.2 |
- | "Fred Gets Kidnapped by Claudio" | Ionawr 22, 2011 | 2.1 |
- | "Fred is Left Alone With Claudio" | Ionawr 29, 2011 | 2.4 |
- | " Fred Investigates Rumors at School" | Chwefror 23, 2011 | 1.6 |
- | "Fred Figglehorn - I Wanna Be a Celebrity - Official Music Video" | Mawrth 9, 2011 | 1.8 |
- | "Fred's Top Secret New Project" | Ebrill 7, 2011 | 3.1 |
EP gyda phedwar trac yw It's Hackin' Christmas With Fred a rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2009. Cyhoeddwyd fideos cerddoriaeth "Christmas Cash" a "Christmas is Creepy" ar sianel Fred ar YouTube. Rhyddhawyd yr albwm ar-lein trwy iTunes.[10]
Albwm gan Fred Figglehorn yw Who's Ready to Party a rhyddhawyd ar 21 Medi 2010. Cyhoeddwyd fideos cerddoriaeth "Don't Forget to Brush", "Who's Ready to Party?", "The Babysitter's a Vampire" a "Tater Haters" ar sianel Fred ar YouTube.
Ffilm 2010 sydd yn seiliedig ar gyfres YouTube am Fred Figglehorn. Mae hi'n serennu Lucas Cruikshank fel Fred, Pixie Lott fel Judy, Jennette McCurdy fel Bertha, Jake Weary fel Kevin, John Cena fel tad Fred, a Siobhan Fallon Hogan fel mam Fred. Mae'r ffilm yn dilyn Fred sydd ar genhadaeth i ffeindio cariad ei freuddwydion, Judy, ar ôl iddi symud i ffwrdd. Ysgrifennwyd y ffilm gan David A. Goodman, cyfarwyddwyd gan Clay Weiner, a chynhyrchwyd gan Brian Robbins.[11] Dechreuodd ffilmio ar 9 Tachwedd 2009 a gorffennodd ar 20 Rhagfyr 2009.[12] Rhyddhawyd y ffilm ar Nickelodeon ar 18 Medi 2010 a rhyddhawyd y DVD ar 5 Medi 2010 yn ogystal ag ar-lein, ar wefannau llifo fel Netflix.[13]