Mudiad rhyngwladol i ddisgyblion ysgol yw School Strike for Climate (SS4C) (Swedeg gwreiddiol: Skolstrejk för klimatet), a elwir hefyd yn Fridays for Future (FFF), Youth for Climate, Streic Hinsawdd neu'n Streic Ieuenctid ar gyfer Hinsawdd. Mae aelodau'r mudiad yn gadael eu hysgolion bob dosbarthiadau dydd Gwener i gymryd rhan mewn gwrthdystiadau i fynnu fod arweinyddion y byd yn gweithredu i atal newid hinsawdd ac i'r diwydiant tanwydd ffosil drosglwyddo i ynni adnewyddadwy.
Dechreuodd cyhoeddusrwydd a threfnu eang ar ôl i’r disgybl o Sweden, Greta Thunberg, gynnal protest yn Awst 2018 y tu allan i Riksdag (senedd) Sweden, gan ddal arwydd a oedd yn datgan: "Skolstrejk för klimatet" ("Streic ysgol dros yr hinsawdd").[1][2]
Cynhaliwyd streic fyd-eang ar 15 Mawrth 2019 gyda dros miliwn o streicwyr mewn 2,200 o ysgolion, a drefnwyd mewn 125 o wledydd.[3][4][5] Ar 24 Mai 2019, cynhaliwyd yr ail streic fyd-eang, lle gwelwyd 1,600 o brotestiadau ar draws 150 o wledydd a channoedd o filoedd o wrthdystwyr. Amserwyd y digwyddiadau i gyd-fynd ag Etholiad Senedd Ewrop, 2019.[6][7][8][9]
Roedd Global Week for Future 2019 yn gyfres o 4,500 o streiciau ar draws dros 150 o wledydd, bob dydd Gwener rhwng 20 Medi a dydd Gwener 27 Medi. Dyma streiciau hinsawdd mwyaf yn hanes y byd, casglodd streiciau 20 Medi oddeutu 4 miliwn o wrthdystwyr, llawer ohonynt yn blant ysgol, gan gynnwys 1.4 miliwn yn yr Almaen.[10] Ar 27 Medi, amcangyfrifwyd bod dwy filiwn o bobl wedi cymryd rhan mewn gwrthdystiadau ledled y byd, gan gynnwys dros filiwn o wrthdystwyr yn yr Eidal a channoedd o filoedd o wrthdystwyr yng Nghanada.[11][12][13]
Ar 20 Awst 2018, penderfynodd ymgyrchydd hinsawdd Sweden, Greta Thunberg,[14] yn ei 9fed blwyddyn ysgol (Blwyddyn 8 yng Nghymru), i beidio â mynychu ysgol tan etholiad cyffredinol Sweden 2018 ar 9 Medi ar ôl haf cynnes iawn a thanau gwyllt yn Sweden.[15] Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli gan yr actifyddion yn eu harddegau ynddisgyblion Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Florida, a drefnodd y <i>March for Our Lives</i>.[16][17]
Protestiodd Thunberg trwy eistedd y tu allan i'r Riksdag bob dydd yn ystod oriau ysgol.[18] Galwodd ar Lywodraeth Sweden i leihau allyriadau carbon fel a fynnwyd yng Nghytundeb Paris. Ar 7 Medi, ychydig cyn yr etholiadau cyffredinol, cyhoeddodd y byddai'n parhau i streicio bob dydd Gwener nes bod Sweden yn cyd-fynd â Chytundeb Paris. Bathodd y slogan Fridays For Future, a enillodd sylw ledled y byd, ac a ysbrydolodd fyfyrwyr ysgol ledled y byd i gymryd rhan mewn streiciau.[19]
Mae'r streiciau wedi cael eu canmol a'u beirniadu gan oedolion mewn swyddi awdurdodol. Yn yr Undeb Ewropeaidd, cafodd y mudiad gefnogaeth sylweddol gan y blaid pan-Ewropeaidd Volt Europa a rannodd, yn ôl adroddiad gan Parents for Future cyn Etholiadau Ewropeaidd 2019, holl gyhoeddiadau Fridays For Future ym mis Ebrill 2019.[27]
Mae gwleidyddion Ceidwadol yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia wedi disgrifio’r streiciau fel triwantiaeth; a chosbwyd rhai disgyblion a;u harestio am streicio neu arddangos baneri.[28][29] Beirniadodd Prif Weinidog y DU Theresa May y streiciau fel "gwastraff amser".[30] Lleisiodd Jeremy Corbyn, cyn arweinydd y Blaid Lafur ac Arweinydd yr Wrthblaid ei gefnogaeth i’r streiciau,[31][32][33] fel y gwnaeth arweinwyr pleidiau eraill Cymru a'r DU.[34][35]
Yng Ngorffennaf 2020, cafodd gwefan Fridays for Future ei gau i lawr gan Lywodraeth India. Roedd y grwpiau'n arwain ymgyrch yn erbyn Drafft EIA newydd a dadleuol a gynigiwyd gan Lywodraeth India hefyd.[36]