Math | plwyf sifil, tref, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Mendip |
Poblogaeth | 28,567 |
Gefeilldref/i | Château-Gontier, Murrhardt |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 832 km² |
Uwch y môr | 65 metr |
Cyfesurynnau | 51.2279°N 2.3215°W |
Cod SYG | E04008560 |
Cod OS | ST775477 |
Cod post | BA11 |
Plwyf sifil a thref maint canolig yn ardal Mendip, Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, ydy Frome[1] (Cymraeg: Ffraw).[2] Lleolir tua 13 milltir i'r de o Gaerfaddon, ar ben dwyreiniol Bryniau Mendip. Amgylchynir canol y dref gan fryniau, a llifai'r Afon Frome drwyddi. Mae Caerdydd 65.7 km i ffwrdd o Frome ac mae Llundain yn 157.7 km. Y ddinas agosaf ydy Caerfaddon sy'n 17.2 km i ffwrdd.
O tua 950 hyd 1650, roedd Frome yn fwy na Chaerfaddon, tyfodd yn wreiddiol oherwydd y diwydiant gwlan a brethyn. Amrywiaethodd yn ddiweddarach gan gynnwys diwydiannau gweithio metel ac argraffu.
Mae'r dref wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, ond mae'n dal yn gartref i nifer o adeiladau rhestredig, ac mae'r rhan fwyaf o ganol y dref o fewn ardal cadwraeth. Er ei fod yn blwyf arwahan, mae'r dref erbyn hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o bentref Selwood sydd erbyn hyn yn faesdref.
Does bron dim tystiolaeth y bu anheddiad cynhanesyddol neu Rufeinig yn yr ardal. Y dystiolaeth gynharaf o anheddiad Frome, Froome bryd hynny, yw mynachlog Sacsonaidd a sefydlwyd gan Sant Aldhelm yn 685. Mae'n edrych fel petai brenhinoedd Sacsonaidd wedi defnyddio Frome fel canolfan er mwyn hela yng Nghoedwig Selwood ac yn 934 cynhaliwyd witenagemot yno, gan ddangos bod Frome eisoes yn lle o gryn faint.[3]
Yn ystod adeg Llyfr Dydd y Farn, roedd y faenor yn eiddo i William I, brenin Lloegr, ac yn brif anheddiad cantref mwyaf a chyfoethocaf Gwlad yr Haf.[4] Dros y blynyddoedd canlynol, rhannwyd y faenor gwreiddiol, gyda rhai rhannau'n dod yn faenori yn gwbl ar wahan, er enghraifft, roedd un yn eiddo i'r gadeirlan, a phasiodd ymlaen yn ddiweddarach i Abaty yn Cirencester, a phrydlesywd maenorau eraill gan y Goron i deuluoedd pwysig. Erbyn y 13g, roedd yr Abaty wedi prynu rhai o'r maenorau eraill, gan ddefnyddio'r elw o'r farchnad a'r fasnach yn y dref.[3]
Yn ôl traddodiad lleol, bu Frome yn fwrdeistref canoloesol, a chyfeirir at reeve Frome rwan ac yn y man mewn dogfennau wedi teyrnasiad Edward I, ond does dim tystiolaeth uniongyrchol y bu Frome yn fwrdeistref a does dim golwg o unrhyw siarter a roddwyd iddi. Ond, rhoddodd Harri VII siarter i Edmund Leversedge, arglwydd y faenor, gan roi hawl iddo gynnal ffeiriau rhwng 22 Gorffennaf a 21 Medi.
Sefydlwyd gweithgynhyrchiad defnydd gwlan fel prif ddiwydiant y dref yn y 15g,[3][5] ac arhosodd Frome yr unig dref yng Ngwlad yr Haf lle ffynnodd y brif ddiwydiant hon.[6] Yn raddol, daeth teuluoedd y brethynwyr yn brif berchnogion tir yn y dref, â maenor Frome ei hun yn dod yn eiddo i fasnachwr brethyn ym 1714.
Bu ehangiadau mawr rhwng 1665 ac 1725, gan gynnwys adeiladu maestref newydd ar gyfer y crefftwyr i'r gorllewin o Trinity Street.[7] Dywedodd Daniel Defoe fod y dref:
“ | "so prodigiously increased within these last 20-30 years, that they have built a new church, and so many new streets of houses, and those houses are so full of inhabitants, that Frome is now reckoned to have more people in it than the city of Bath, and some say, than even Salisbury itself, and if their trade continues to increase for a few years more ... it is likely to be one of the greatest and wealthiest towns in England." | ” |
Ar 27 Mehefin 1685, gwersyllodd lluoedd Dug Mynwy yn Frome, ac yn dilyn Gwrthryfel Mynwy, crogwyd 12 o ddynion yn y dref.[8]
Ond, oherwydd tlodi, dirywiad y diwydiant gwlan yn y 18g, a chynnydd mewn diwydiannaeth a phrisiau bwyd, bu aflonyddwch ymysg trigolion Frome, a bu nifer o derfysgoedd yn ystod y ganrif hwnnw. Erbyn 1791, disgrifwyd y dref mewn termau llai gwenieithol a'r rhai a ddefnyddiwyd gan Defoe 70 mlynedd ynghynt.[3]
Datblygwyd cynlluniau i ailfywiogi'r dref yn yr 19g, ac i'w dychwelyd i'w hen safle o fod yn dref pwysicach na Chaerfaddon. Syniad dyn busnes lleol, Thomas Bunn, oedd y cynlluniau hyn, a methont yn gyffredinol i ddwyn ffrwyth, ond codwyd rhai adeiladau cyhoeddus a torrwyd ffordd newydd lydan i arwain i'r dref (a enwyd yn Bath Street ar ôl y perchennog tir, Arglwydd Caerfaddon, sef Lord Bath o Longleat House).[9]
Tra parhaodd y wlad i fod yn elfen bwysig o economi'r dref yn yr 19g (ac i'r 20g hyd yn oed), sefydlwyd diwydiannau eraill yn y dref yn ogystal. Sefydlwyd ffowndri clychau ym 1684 gan William Cockey, a dyfodd i dod yn brif gynhyrchydd darnau ar gyfer datblygu'r diwydiant nwy ac yn gyflogydd i 800 o bobl. Sefydlwyd ffowndri pres J W Singer[10] a gweithfeydd castio efydd gan J. W. Singer ym 1854, roeddent yn un o brif gyflogwyr y dref a cynhyrchodd y cwmni nifer o gerfluniau efydd adnabyddus megis "Justice" yn yr Old Bailey, Llundain. Argraffu oedd un o'r prif ddiwydiannau eraill, gyda sefydliad gweithfeydd argraffu Butler and Tanner yng nghanol yr 19g. Daeth bragu hefyd yn gyflogaeth yn y dref.[9]
Frome yw tref fwyaf di-metropolitan yn ardal Mendip Gwlad yr Haf, er mai Shepton Mallet yw'r ganolfan weinyddol. Cyn 1974, gweinyddwyd gan Ddosbarth Trefol Frome.[11]
Mae'r dref yn ethol tri aelod i Gyngor Sir Gwlad yr Haf, pob un o ranbarth gwahanol y sir. Yn yr etholiad diwethaf ym mis Mehefin 2009, etholwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ardaloedd Frome South a Frome Selwood, a'r Ceidwadwyr yn Frome North.[12] Mae gan Frome hefyd 11 o gynghorwyr ar Gyngor Dosbarth Mendip, dau o bob ward y dref heblaw Oakfield, sy'n ethol ond un. Yn dilyn etholiadau 2008, roedd pob un o'r 11 o'r cynghorwyr yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol.[13]
Mae plwyf gwladol Frome wedi ymdopi arddull plwyf trefol, mae Cyngor Tref gyda 17 o aelodau. Rhennir y cynghorwyr rhwng 6 ward, tri ar gyfer Berkley Down, College, Keyford, Market a Park Wards, a dau ar gyfer Ward Oakfield. Cynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ym mis Mai 2007, ac yn dilyn hynny mae deg cynghorwr Democratiaid Rhyddfrydol, pump Ceidwadol, un Llafur ac un annibynnol.[14]
Mae gan Frome ddau efeilldref: Château-Gontier, Ffrainc a Murrhardt, yr Almaen.
Ni chynrychiolwyd y dref yn y Senedd tan i Ddeddf Diwygio 1832 roi un aelod yn y Tŷ'r Cyffredin iddynt. Diddymwyd cynrychiolaeth arwahan yn etholiad cyffredinol 1950, gyda Frome yn dod yn rhan o etholaeth Wells, tra bod gweddill ei hen etholaeth yn dod yn rhan o etholaeth newydd Gogledd Gwlad yr Haf. Bu newidiadau pellach yn etholiad cyffredinol 1983 pan grewyd yr etholaeth presennol, Somerton a Frome. Y cynrychiolydd presennol yw'r AS Rhyddfrydol, David Heath CBE, er fod y Ceidwadwyr wedi cystadlu'n gryf am y sedd ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod etholiad 2005, pan bleidleisiodd 70% o'r etholwyr, enillodd David Heath o fwyafrif bach iawn o 812 pleidlais (1.5% o'r cyfanswm).[15]
Mae Frome yn rhan o Etholaeth seneddol Ewrop, De Orllewin Lloegr, sy'n wthol chwe Aelod o Senedd Ewrop gan ddefnyddio dull d'Hondt o gynrychiolaeth cyfraneddol rhestr-plaid.
Mae gan y dref ysbyty gymunedol GIG newydd, a weithredir gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gwlad yr Haf, lleolir ar hen safle mae sioe Fromefield.[16] Agorwyd yr ysbyty yn 2008, gan gymryd lle hen Ysbyty Victoria Frome, Park Road a ddefnyddiwyd ers 1901. Lleolir yr ysbyty gyffredinol agosaf yng Nghaerfaddon.
Adeiladir Frome yn anwastad ar dir uchel uwchben Afon Frome, a groesir gan bont 16g yng nghanol y dref. Mae canol y dref tua 65 medr uwchben lefel y môr, tra bod rhannau o gyrion y dref rhwng 90 ac 135 medr uchben lefel y môr.[17]
Prif ardaloedd y dref yw Innox Hill, Welshmill, Packsaddle, Fromefield, Stonebridge, Clink, Berkley Down, Easthill, Wallbridge, The Mount, Keyford and Lower Keyford, Marston Gate, The Butts, Critchill, Trinity, a Gould's Ground.[17]
Er nad yw coedwig brenhinol Selwood yn bodoli bellach, mae'r cefn gwlad gerllaw yn dal i fod yn goediog a chyfoethog, er enghraifft ar ystadau Longleat, Maiden Bradley a Stourhead.
I'r gorllewin o'r dref, ar ymylon y Mendip Hills, mae nifer o chwareli mawr carreg galch sy'n weithgar, megis Chwarel Whatley a Chwarel Merehead, ynghyd â nifer o chwareli sydd ar gau. Gwasanaethir y chwareli gan reilffordd dynodedig Mendip Rail, sy'n gangen a dorrai oddi wrth y brif linell yn Frome, ac sy'n teithio drwy ganol y dref drwy ardaloedd Welshmill a Spring Gardens yng ngogledd orllewin y dref.
Roedd gan Frome boblogaeth o 12,240 yng Nghyfrifiad 1831, ond erbyn 1901 roedd hyn wedi disgyn i 11,057. Arhosodd rhwng 11,000 a 12,000 tan yr 1970au. Ers hynny mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol, gan gyrraedd dros 23,000 ym 1991.[3]
Roedd poblogaeth o 24,510 yng Nghyfrifiad 2001, 11,863 (48.4%) ohonynt yn wrywaidd a 12,647 (51.6%) yn fenywaidd. Roedd 7,674 (31.3%) o drigolion yn 16 oed neu iau, 13,150 (63.3%) rhwng 16 a 65 oed, a 3,686 (15.0%) yn 65 oed neu'n hŷn.[18]
Roedd 11,580 (67%) o'r boblogaeth rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth, a dim ond 513 (3%) yn ddi-waith (y gweddill yn anactif yn economaidd). Roedd tua 68% o'r rheiny mewn cyflogaeth yn gweithio yn y diwydiannau gwasanaeth, a'r gweddill yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Cyflogwyd 4,323 mewn swyddi rheoli neu broffesiynol, roedd 1,362 yn hunan-gyflogedig a 4,635 mewn cyflogaeth rheolaidd a rhannol-reolaidd.
Cofnodwyd 10,198 aelwyd yn y dref, 7,679 (75%) ohonynt yn eiddo i'r preswylwyr, 981 (10%) wedi'u rhentu gan berchnogion preifat, a 1,538 (15%) wedi'u rhentu gan lywodraeth lleol neu berchennog cymdeithasol arall. Roedd 10,122 (99.3%) pen-teulu yn dod o dras gwyn.
Mae'r diwydiannau gweithio metel ac argraffu a ddisodlodd gwlan fel prif ddiwydiant Frome wedi dirywio, ond nid ydynt wedi gadael y dref. Mae cwmni Singers yn dal i fodoli yn y dref, yn ogystal â Butler and Tanner, er bod rhain wedi dioddef anhawsterau ariannol yn ystod dirwasgiad 2008, gan eu gorfodi i ddiswyddo cyfran uchel o'u gweithwyr.
Mae bron i hanner o boblogaeth Frome sy'n weithgar yn economaidd yn cymudo i weithio tu allan i'r dref (i Gaerfaddon, Bryste, Warminster, Westbury neu ymhellach). Mae tua 2,700 o bobl yn cymudo i mewn i'r dref i weithio. Nid oes gan ran helaeth o'r gweithlu unrhyw gymwysterau ffurfiol ac maent â sgiliau gwael, gan eu gwneud yn archolladwy i ddirywiad mewn gwaith gweithgynhyrchu.[19] Does dim cyflogaeth o bwys i'w gael gan y llywodraeth leol yn y dref. Y prif gyflogwyr yn y parth cyhoeddus yw'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac ysgolion.[20]
Mae canol tref Frome yn cynnwys nifer cymhedrol o siopau annibynnol, ac ychydig iawn o siopau cadwyn. Mae'r adwerthu wedi ei anelu yn bennaf at wasanaethu anghenion y boblogaeth leol, ar gyfer bwyd, dillad, iechyd a harddwch, DIY ac ychydig o offer trydanol. Er hynny, mae astudiaethau wedi dangos mai ond chwarter o boblogaeth y dref sy'n siopa am unrhyw beth heblaw bwyd yn y dref. Mae hefyd sawl cangen banc a chymdeithasau adeiladu yng nghanol y dref.[19][20]
Cynhelir marchnadau yn y dref ar ddyddiau Mercher a Sadwrn, rhai ym maes parcio Market Yard ac eraill yn hen warws amaethyddol Cheese and Grain. Symudodd marchnad gwartheg dydd Sadwrn o ganol y dref i Standerwick ger llaw yn yr 1980au. Yn 2003, enillodd Frome statws Tref Masnach Rhydd.[21]
Mae Cheap Street Frome yn lleoliad ym mhennod chwech o gyfres cyntaf comedi'r BBC, The Fall and Rise of Reginald Perrin.[26]
Mae Frome hefyd wedi cyflenwi'r cefndir ar gyfel nifer o ddramâu hanesyddol, megis Drover's Gold, a ffilmwyd gan BBC Cymru ym 1996.[27]
Mae nifer o ddatblygiadau tai wedi bod yn Frome, nifer o'r rhain ar gyn-safleydd diwydiannol. Mae rhain yn parhau i gael eu hadeiladu gyda 600 o dai yn Saxonvale a Garsdale.[20]
Datblygwyd cynllun ar gyfer datblygu Frome, sef Vision for Frome 2008-2028, mewn ymgynghoriaeth gyda'r bobl leol yng ngwanwyn 2008, a derbyniwyd 3,000 o ymatebion.[20]
Ym mis Rhagfyr 2008, roedd Cyngor Dosbarth Mendip a Phartneriaeth Strategol Mendip yn ymgynghori ynglŷn â Strategaeth y Gymuned a Fframwaith Datblygiad Lleol ar gyfer y cyfnod hyd 2026, sy'n cynnwys adeiladu 2,500-2,600 o dai newydd, a chyflenwi cyflogaeth a lle swyddfa, datblygu ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd newydd, adlunio canol y dref a hybu ystod ehangach o adwerthwyr a chyflenwyr cyfleusterau hamdden i'r dref.[19]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys cyfieithiadau o 11fed rhifyn yr Encyclopædia Britannica, cyhoeddiad sydd erbyn hyn y parth cyhoeddus.
Dinasoedd
Caerfaddon • Wells
Trefi
Axbridge • Bridgwater • Bruton • Burnham-on-Sea • Castle Cary • Chard • Clevedon • Crewkerne • Dulverton • Frome • Glastonbury • Highbridge • Ilminster • Keynsham • Langport • Midsomer Norton • Minehead • Nailsea • North Petherton • Portishead • Radstock • Shepton Mallet • Somerton • South Petherton • Taunton • Watchet • Wellington • Weston-super-Mare • Wincanton • Wiveliscombe • Yeovil