Gair mwys neu fwysair yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf. Mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dwy ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt. Pethau fel:
Mae geiriau mwys yn bethau cyffredin iawn mewn penawdau papur newydd. Maent yn cael eu defnyddio yn aml i ddal sylw y darllenydd gyda rhyw chwarae ar eiriau. Defnyddiodd bapur newydd y Negesydd un pan ddywedasant:
Mae'n hawdd gweld sut mae papurau newydd yn dal sylw pobl felly, a gellir defnyddio geiriau mwys mewn sawl ffordd wahanol iawn.
Mae'r gair mwys yn boblogaidd yn y byd hysbysebu. Os oes eisiau i gael cwsmeriaid neu i ddenu pobl, yna mae'r dechneg yn gallu gweithio'n effeithiol. Dyma un gan siop awyr agored i werthu pebyll:
Now is the discount of our winter tents
Wrth gwrs, yn y fan yma mae'n newid llinell William Shakespeare: Now is the winter of our discontent.