Ganglion

Ganglion
Micrograph of a ganglion. H&E stain.
Manylion
SystemNervous system
Dynodwyr
Lladinganglion
TAA14.2.00.002
FMA5884
Anatomeg
Ganglia gwreiddyn dorsal (DRG) o embryo cyw iâr (o amgylch cyfnod diwrnod 7) ar ôl deoriad dros nos yn y cyfrwng twf NGF wedi'i staenio â gwrthgorff gwrth-niwroffilament. Nodwch yr axons sy'n tyfu allan o'r ganglia.

Clwstwr o gelloedd nerfol yw'r ganglia neu grŵp o gelloedd cyrff nerfol sydd wedi'u lleoli yn y system nerfol awtonomig a'r system synhwyraidd. Mae'r ganglia yn lletya celloedd cyrff nerfau afferol a nerfau echddygol.

Mae pseudoganglion yn edrych fel ganglia, ond mae ganddo ffibrau nerf yn unig ac nid oes ganddo gyrff celloedd nerfol.

Strwythur

[golygu | golygu cod]

Mae'r ganglia yn cynnwys yn bennaf strwythurau somata a dendritig sy'n cael eu bwndelu neu eu cysylltu. Mae'r ganglia yn aml yn cydgysylltu â ganglia arall i ffurfio system gymhleth o ganglia a elwir yn plexws. Mae'r ganglia yn darparu pwyntiau cyfnewid a chysylltiadau cyfryngol rhwng gwahanol strwythurau niwrolegol yn y corff, megis y systemau nerfol ymylol a chanolog.

Ymhlith y fertebratau mae yna dri prif grŵp o ganglia:

  • Ganglia gwreiddiau dorsal (a elwir hefyd yn ganglia sbinol) sy'n cynnwys celloedd cyrff y niwronau synhwyraidd (afferol).
  • Ganglia nerf cranial sy'n cynnwys celloedd cyrff y niwronau nerf cranial.
  • Ganglia awtonomig sy'n cynnwys celloedd cyrff y nerfau awtonomig.

Yn y system nerfol awtonomig, gelwir ffibrau o'r system nerfol ganolog i'r ganglia yn ffibrau preganglionig, tra gelwir y rhai o'r ganglia i'r organ effaithor yn ffibrau postganglionig.

Ganglia gwaelodol

[golygu | golygu cod]

Mae'r term "ganglia" yn cyfeirio at y system nerfol ymylol.

Fodd bynnag, yn yr ymennydd (rhan o'r system nerfol ganolog), mae'r "ganglia gwaelodol" yn grŵp o niwclysau sy'n gysylltiedig â'r cortex, y thalamws a choesyn yr ymennydd, sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth o swyddogaethau: rheolaeth dros symudiadau, gwybyddiaeth, emosiynau, a dysg.

Yn rhannol oherwydd yr amwysedd hwn, mae'r Terminologia Anatomica yn argymell defnyddio'r term niwclews sylfaenol yn hytrach na ganglia gwaelodol; fodd bynnag, ni chafodd y defnydd hwn ei fabwysiadu yn gyffredinol.

Pseudoganglia

[golygu | golygu cod]

Mae pseudoganglion yn dewychiad o brif ran neu fongorff y nerf sy'n edrych fel ganglia ond mae yna ffibriau nerf yn unig ac nid oes celloedd cyrff nerfol.

Ceir hyd i'r Pseudoganglia yn y cyhyr teres lleiaf a'r nerf rheiddiol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]