Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana o fewn ioga yw Garbha Pindasana (Sansgrit: ङर्भ Pइण्डआसन, IAST: Garbha Piṇḍāsana ), Baban mewn Croth,[1][2] weithiau'n cael ei fyrhau i Garbhasana.[3][4][5]
Asana cydbwyso ydyw yn y bôn, gydag elfen o eistedd hefyd, ac fe'i ceir o fewn i ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff.
Mae'r ystum yn union yr un fath ag Uttana Kurmasana (y Crwban gwrthdro, oddigerth bod y corff ar y cefn yn yr asana hwnnw yn lle bod yn cydbwyso'n unionsyth.[6]
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit garbha sy'n golygu "croth"; piṇḍa, sy'n golygu "embryo" neu "ffoetws"; ac āsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[7]
Disgrifir yr asana hwn yn Bahr al-Hayāt o'r 17g.[8]
Croesir y coesau yn Padmasana; gall ymarferwyr sy'n methu cadw'r traed yn Padmasana yn hawdd groesi'r coesau yn Sukhasana. Mae'r breichiau wedi'u cordeddu trwodd y tu ôl i'r pengliniau, ac yna mae'r dwylo'n ymestyn i fyny i afael yn y clustiau. Yna caiff y corff ei gydbwyso ar gwtyn y cynffon.[1][9]
Yn ioga ashtanga vinyasa, mae'r ystum yn y gyfres gynradd.[2]
Gall safle'r fraich fod yn amrywiol.[10]
Ffurf arall yw'r asana lledorwedd Supta Garbhasana gyda'r fferau wedi'u croesi y tu ôl i'r gwddf, yr un fath â Yoganidrasana (Iogi'n Cysgu).[11]
Honodd rhai eiriolwyr ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, fod ioga'n effeithio'n bositif ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth o hynny.[12][13] Honnodd Iyengar fod yr ystum hwn yn gwneud i'r gwaed gylchredeg yn dda o amgylch organau'r abdomen, sydd "wedi'u contractio'n llwyr", gan eu cadw'n iach.[1]
<ref>
annilys; mae'r enw "Ashtanga" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol