Gavin Henson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1982 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, chwaraewr rygbi'r gynghrair |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 100 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe, Y Gweilch, C.P.D. Sarasenau, RC Toulonnais, Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Caerfaddon Rygbi, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, West Wales Raiders |
Safle | Canolwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Gavin Lloyd Henson (ganed 1 Chwefror 1982), ar hyn o bryd yn chwarae i'r Gweilch, fel canolwr yn bennaf.
Ganwyd Henson ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fab i Alan Henson, a fu'n chwarae i Faesteg fel prop. Chwaraeodd rygbi dros ei ysgol, Ysgol Gyfun Brynteg.
Cafodd ei enwi fel "Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn" gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 2001. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei berfformiadau dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon a De Affrica yn hydref 2004 ac yna ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005 pan enillodd Cymru y Gamp Lawn, yn enwedig pan giciodd y gôl gosb a sicrhaodd fuddugoliaeth dros Loegr yn y gêm gyntaf.
Fe'i dewiswyd ar gyfer taith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig i Seland Newydd yn haf 2005. Cafodd ei adael allan o'r tîm ar gyfer y gêm brawf gyntaf er mwyn gwneud lle i Jonny Wilkinson chwarae fel canolwr. Bu llawer o ddadlau ynglŷn â hyn, ac fe gafodd ei ddewis i chwarae yn yr ail gêm brawf. Cafodd ei anafu yn y gêm yma, ac ni chwaraeodd eto ar y daith nac ar ddechrau tymor 2005-06.
Am wahanol resymau, Gavin Henson sydd â'r proffil uchaf o holl chwaraewyr presennol Cymru. Daeth yn fwy adnabyddus fel cariad Charlotte Church, ac am eillio ei goesau cyn y gemau. Yn Hydref 2005 cyhoeddodd lyfr My Grand Slam Year, lle beirniadodd agweddau ar reolaeth taith y Llewod i Seland Newydd a'r ffaith bod chwaraewyr nad oeddynt yn Gymry yn medru cymhwyso eu hunain i chwarae yn y tîm cenedlaethol, yn ogystal â chyhuddo Brian O'Driscoll o geisio anafu ei lygad yn y gêm yn erbyn Iwerddon yn 2005.
Ar Ragfyr 23ydd 2005 cafodd Gavin Henson ei wahardd am ddeg wythnos gan gynrychiolwyr Cwpan Ewropiaidd Rygbi fel cosb am ddefnyddio ei ben-elin yn erbyn prop mewn gêm yn erbyn y Leicester Tigers.
Mae gan Henson a Charlotte Church ddau o blant, Ruby Megan Henson (Tachwedd 2007) a Dexter Lloyd Henson (Ionawr 2009).[1]