Gefeil-lys cyd-dueddol Cephalozia connivens | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziaceae |
Genws: | Cephalozia |
Rhywogaeth: | C. connivens |
Enw deuenwol | |
Cephalozia connivens |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Gefeil-lys cyd-dueddol (enw gwyddonol: Cephalozia connivens; enw Saesneg: forcipated pincerwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'n blanhigyn bychan iawn, sy'n hoffi cynefinoedd fel corsydd a mannau gwlyb a llaith eraill, lle ceir migwyn (Sphagnum).
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, a ledled gwledydd Prydain, ond yn cymharol brin yng nghanol Lloegr, ac nid yw'n or-hoff o dir asidig.
Mae coesynnau'r Gefeil-lys cyd-dueddol, fel arfer, oddeutu 0.5–1 mm o led ac mae'r dail yn 0.8 mm o led a 0.6 mm o hyd. Mae ganddi gelloedd dail mawr, sy'n golygu ei bod yn edrych yn hynod o dryloyw trwy chwyddwydr.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.