Cynffon y faner, y pen pellach o'r hos, y rhan sydd ar waelod baner wrth ei hongian yn llorweddol o adeilad. Yn Saesneg 'fly'.
Daw o'r gair am gynffon pioden, gwaywffon neu "rhywbeth tebyg i gynffon".[2] Bydd y cloren yn aml yn llipa wrth cyhwfan yn naturiol, mae'n gamgymeriad felly lleoli motiff yno gan y bydd hwnnw'n anweladwy am gyfnodau mawr o'r amser pan fydd baner yn hedfan wrth bolyn yn yr awyr agored di-wynt. Serch hynny, mae wedi bod yn ffasiynol ers yr 1960au i faneri gynnwys motiff yn y gloren, efallai gan bod y baneri hynny wedi eu dylunio gan ddylunwyr wrth ddesg ac nid gan chwyldoradwyr neu filwyr oedd am gyfleu neges glir. Ymysg y camgymeriadau dylunio banereg yma mae Sambia, Nunavut a baner newydd Rwanda.
Ymyl neu rhimyn cul, yn aml mewn gwyn neu aur, ar faner i wahanu dau liw arall, yn enwedig os yw'r ddau liw arall yn debygol o dorri Rheol Tintur. Er enghraifft llinellau gwyn ac aur Baner De Affrica neu Ynysoedd y Ffaroe lle ceir ffibrilad las o gylch croes Sgandinafaidd goch. Ceir enghreifftiau eraill ar faner talaith hunanlywodraethol Swedeg ei hiaith ond sy'n rhan o'r Ffindir, sef, Ynysoedd Aland (ar ymyl y groes Lychlynaidd).
Mae Baner Libia a elwyd yn faner Libia Arabaidd Jamahiriya yn enwog am fod yn faner ag iddi ddim ond maes werdd heb ddim lliw na motiff arall arni. Mabwysiadwyd y faner ar 19 Tachwedd 1977 ac roedd yn cynnwys maes gwyrdd. Hon oedd yr unig faner genedlaethol yn y byd gydag un lliw yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.[4] Fe'i dewiswyd gan arweinydd Libya Muammar Gaddafi i symboleiddio ei athroniaeth wleidyddol (ar ôl ei Lyfr Gwyrdd).ref>"Staff of Libyan consulate in Egypt lower flag". Reuters. 22 February 2011.</ref> Mae'r lliw gwyrdd yn draddodiadol yn symbol o Islam, gan adlewyrchu baneri gwyrdd hanesyddol y Califfad Fatimid. Yn Libia, roedd gwyrdd hefyd yn lliw a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gynrychioli rhanbarth Tripolitania.
Mae Palo yn derm a ddefnyddir mewn herodraeth i nodicharge sef arwyddlun neu ddyfais sy'n meddiannu maes yr escutcheon (tarian) sy'n amlygu ei hun fel stribed fertigol traean o led y darian mewn herodraeth Eidalaidd a 2 module (2/7 o'r lled) yn Ffrangeg. Gelwir palo sydd yr un lled â'r ddau stiped naill ochr, cymuseredd 1:2, yn Palo Canadaidd. Mae hyn oherwydd ei fod yn dilyn y dyluniad ar faner Canada lle saif y ddeilen masarnen goch ar y llain wen.
Mae'r palo (Saesneg: Pale; benthycwyd y term Eidaleg i'r Gymraeg rhag drysu â geiriau Cymraeg arall fel pâl, pêl, neu ffâl) yn ddarn anrhydeddus (o'r drefn gyntaf) sy'n meddiannu rhan ganolog y darian yn fertigol ac wedi'i ffinio gan ddwy linell fertigol gyfochrog.
Mae penwn (lluosog penynau)[5] (Saesneg: pennon, pennant neu pendant), yn faner hir gul sy'n fwy wrth y hós Baner. Bydd yn hirgul ar lun triongl neu gynffon gwennol ac arni arfbais weithiau, a glymir wrth waywffon neu helmed, banerig, lluman, fflag, ystondard, ensain. Ceir y cyfeiriad archifedig cynharaf iddi yn y Gymraeg, lle gall wedi dod o'r Hen Ffrangeg, mewn cerdd gan Gruffudd Gryg yn y 14g.[6]
Roedd baneri arddull penon yn un o'r tri phrif fath o faneri a gariwyd yn ystod yr Oesoedd Canol (y ddwy arall oedd y faner a'r ystondord).[7] Mae'r penwn yn faner sy'n debyg i'r canllaw o ran siâp, ond dim ond hanner y maint. Nid yw'n cynnwys unrhyw arfbais, ond dim ond cribau, arwyddeiriau a dyfeisiau herodrol ac addurniadol.
Daw pennon o'r Lladin "penna", sy'n golygu "adain" neu "bluen". I ddechrau roedd yn derm am "pennant fach".[8]
Er nad yn rhan o wead mewnol baner, mae'r rhidens[9] yn atodiad boblogaidd, fel arfer mewn defnydd lliw aur, ar hyd ymyl ehedog y faner (hynny yw, bob ochr heblaw'r hós). Atodir i'r faner am i godi statws ac ar gyfer arfer seremonïol yn hytrach na hedfan yn gyffredin. Gelwir yn 'fringe' fel rheol yn y Saesneg.[10]
Cwlwm o edefynnau rhydd a osodir fel addurn gyda'r faner.[11] Fel rheol fe'u dodir uwchben y faner wedi eu clymu i'r polyn. Defnyddir edafedd lliw aur fel rheol fel arwydd o barch ac urddas. Ceir defnydd mynych ohonynt mewn baneri catrodau milwrol a gosgorddau swyddogol.
Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006])
Ryan, Siobhán (gol.) Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddus: Swinburne, H Lawrence (1911). "Flag". In Chisholm, Hugh (gol.). Encyclopædia Britannica. 10 (arg. 11th). Cambridge University Press. tt. 456–459.CS1 maint: ref=harv (link)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: hòs, hosiad o'r Saesneg "hoist". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: palo o'r Eidaleg "palo". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cloren o'r Saesneg "fly". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: ffibriliad, rhimyn o'r Saesneg "Fimbriation". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: rhidens o'r Saesneg "tassles". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.