Autographa gamma | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Autographa |
Rhywogaeth: | A. gamma |
Enw deuenwol | |
Autographa gamma (Linnaeus, 1758) |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gem fforch arian, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gemau fforch arian; yr enw Saesneg yw Silver Y, a'r enw gwyddonol yw Autographa gamma.[1][2]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gem fforch arian yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Mae'n hysbys bod y gem fforch arian yn wyfyn mudol. Dyma hanesyn i gyfleu hyn. Yn 1966 cofnododd George Evans, warden Gwylfa Adar Ynys Enlli ar y pryd, 45 math o wyfyn o gwmpas y goleudy, wedi eu denu gan y golau. O'u plith roedd 19 na chafodd eu gweld fel arfer yn unman arall ar yr ynys. Roedd amryw ohonynt yn gyffredin, ond ar dri dyddiad, 12fed Mehefin, 12fed Awst a'r 19eg Medi tynnwyd ei sylw gan un math yn arbennig, sef y "cannoedd, efallai miloedd" o ffyrch arian.
Dywedodd Peter Hope Jones[3] bod eu presenoldeb niferus liw dydd ar yr ynys yn y dyddiau dilynol yn codi'r posibilrwydd diddorol bod y rhywogaeth hon (ac eraill efallai) yn cael eu hudo i olau'r goleudy nid yn unig o gyffiniau'r goleudy ei hun ond hefyd efallai o bellterau llawer mwy. Roedd tywydd o gwmpas y 21 Awst (o leiaf) yn ffafriol iawn i fewnfudwyr o wyfynod. Roedd llif awyr poeth yn dod o dde'r Iwerydd ar y pryd.