20ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
![]() | |||
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 23 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 3 Awst | ||
|
![]() | |
Enghraifft o: | digwyddiad aml-chwaraeon ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2014 ![]() |
Dechreuwyd | 23 Gorffennaf 2014 ![]() |
Daeth i ben | 3 Awst 2014 ![]() |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad ![]() |
Lleoliad | Glasgow ![]() |
Rhanbarth | Strathclyde ![]() |
Gwefan | http://www.glasgow2014.com/ ![]() |
![]() |
Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.
Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.
Un o nodweddion fwyaf y seremoni agoriadol, ac un oedd ychydig yn heriol, oedd dewis y gân Freedom Come-All-Ye yn drefn. O gofio hanes Y Gymanwlad a rôl y frenhiniaeth ynddi, roedd perfformio cân weriniaethol a gwrth-imperialaidd a chenedlaetholgar Albanaidd gref, gan Hamish Henderson yn ddewis annisgwyl. Perfformiwyd y gân gan y soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza.[1] Dewisiwyd Matshikiza gan fod cyfeiriad at dreflan Nyanga yn y gân - treflan ddu a fu'n ymladd yn erbyn effeithiau apartheid.
Llwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[2] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd[3]. Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig[4].
Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phum medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[5].
|
Roedd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn Ngemau'r Gymanwlad 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[6]
Roed 233[7] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|Published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|Published=
ignored (help)
Rhagflaenydd: Delhi Newydd |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Gold Coast,Queensland |