Geoffrey Blyth | |
---|---|
Ganwyd | 1470 Norton Lees |
Bu farw | 1530 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, offeiriad Anglicanaidd, esgob Catholig |
Swydd | Archdeacon of Cleveland, Roman Catholic Bishop of Coventry and Lichfield |
Clerigwr a gwleidydd o Loegr oedd Geoffrey Blyth (tua 1470–1530) a wasanaethodd fel Esgob Coventry a Chaerlwytgoed ac fel Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau.[1]
Ganwyd Blyth yn Norton, Swydd Derby.[2] Roedd yn ail fab i William Blyth bonheddwr. Dydy enw ei fam ddim yn hysbys, ond roedd hi'n chwaer i Thomas Rotherham, Archesgob Efrog. Daeth ei frawd, John Blyth, yn esgob Caersallog ac yn feistr y rholiau.[3]
Cafodd Blyth ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Brenin, Caergrawnt. Graddiodd BA ym 1487 ac MA ym 1490. Derbyniodd doethuriaeth mewn diwinyddiaeth tua 1497 – 1498.[4]
Cafodd Blyth ei hordeinio fel Offeiriad yr Eglwys Gatholig Rufeinig ar 4 Ebrill 1495. Oherwydd ei gysylltiadau teuluol bu ganddo nifer o swyddi eglwysig, gan dal lawer ohonynt ar yr un pryd.[5]
Roedd yn brebend (swyddog gweinyddol eglwysig) Beverley ac Eglwys Gadeiriol Efrog. Roedd yn rheithor Hedon, Swydd Nottingham a rheithor Castell Corfe yn Wareham, Swydd Castle, Dorset. Fe'i penodwyd yn brebend Eglwys Gadeiriol Caersallog ac Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain. Derbyniodd swydd Archddiacon Cleveland ym 1493 gan ei ewythr yr Archesgob Rotherham ; rhoddodd y gorau i'r swydd honno pan ddaeth yn Archddiacon Caerloyw ym 1498. Ym 1494 fe'i penodwyd yn drysorydd Eglwys Gadeiriol Caersallog gan ei frawd ac yna'n Archddiacon yr un lle. Ym 1497 fe'i penodwyd yn Ddeon Efrog. Rhoddodd y gorau i'w holl fywoliaethau eraill pan gafodd ei ethol yn Esgob Coventry a Chaerlwytgoed ym 1503.[1][6]
Gwasanaethodd Blyth fel llysgennad ar gyfer Harri VII. Ar 27 Mai 1502 anfonwyd ef ar lysgenhadaeth at Ladislas II, brenin Hwngari a Bohemia, ac aeth ar lawer o deithiau diplomyddol llai pwysig wedi hynny.
Ym 1512 penodwyd Blyth yn Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau gan dal y swydd hyd 1524.[7] Y peth cyntaf wnaeth wrth ddechrau ar y swydd oedd sefydlu comisiwn i ymchwilio i "derfysg, gwrthryfeloedd a Lolardiaeth (y dymuniad i ddarllen y Beibl yn yr iaith gynhenid) yn ne Cymru a siroedd y gororau" [8] ond nid yw'n hysbys be oedd canlyniad yr ymchwiliad. Ar ôl ei ymchwiliad gwariodd Blyth gweddill ei gyfnod fel llywydd fel arweinydd mewn enw yn unig.
Bu Blyth mewn cryn dipyn o drafferthion cyfreithiol yn ystod ei fywyd.
Bu farw ei dad a'i frawd ym 1509 a gwasanaethodd Blyth fel un o ysgutorion eu hewyllysiau a bu'n rhaid iddo ymofyn pardwn am gamweinyddu ariannol wrth gyflawni ei ddyletswyddau fel ysgutor. Ym 1513 bu mewn trafferthion parthed ewyllys eto. Gan ofni ei fod ar fin farw cynllwyniodd gan adael plentyn fel edling bu Syr Ralph Langford yn cynllwynio gydag Archesgob Blyth i drosglwyddo rhan o'i ystâd gyfoethog i ddyn o'r enw Anthony Fitzherbert. Yn y cyfnod byddai'r plentyn a etifeddodd ystâd enfawr ar farwolaeth ei dad yn dod yn ward y brenin a byddai'r brenin yn cael y budd ariannol o'r ystâd hyd i'r plentyn dyfod yn oedolyn. Trwy eu cynllwyn ceisiodd Langford a Blyth i amddifadu'r brenin o'i fuddiannau fel ward y plentyn.[1]
Ym 1523 cyhuddwyd Blyth o deyrnfradwriaeth gan Gymro anhysbys. Nid yw'r manylion am natur y cyhuddiad wedi goroesi. Cafodd Blyth ei glirio o'r cyhuddiad wedi ymchwiliad gan bwyllgor o Arglwyddi, ond bu'n garcharor am dri mis cyn cael ei glirio.[9]
Ym 1527 roedd Harri VIII yn ceisio cael caniatâd gan y Pab i ddiddymu ei briodas â Catrin o Aragón er mwyn iddo gael priodi Ann Boleyn. Roedd Harri yn credu bod ei Arglwydd Ganghellor Y Cardinal Thomas Wolsey yn llusgo'i draed ar y mater i geisio rhwystro bwriad y brenin a syrthiodd allan o ffafr y brenin. Yn dilyn cwymp Wolsey cyhuddwyd Blyth o gefnogi'r Cardinal a gan hynny o fod yn euog o'r drosedd o praemunire (mynnu neu gynnal awdurdodaeth Babaidd yn Lloegr). Sail y cyhuddiad oedd bod Blyth wedi arddel Pabyddiaeth Wolsey trwy roi traean o'i incwm blynyddol iddo trwy gyfansoddiad wedi'i negodi. Mae'n debyg ei fod wedi rhoi'r arian hwn i'r Cardinal mewn cysylltiad â'r cyhuddiad o deyrnfradwriaeth a ollyngwyd ym 1523. Cafwyd Blyth yn euog ond ni ddaeth unrhyw ganlyniad o'i euogrwydd.[1]
Bu farw Blyth rhywbryd rhwng 28 Ebrill 1530 pan ysgrifennodd ei ewyllys a 1 Mawrth 1531 pan brofwyd ei ewyllys. Claddwyd ei weddillion yn Eglwys Gadeiriol Caerlwytgoed.
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Smyth |
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau 1512 - 1525 |
Olynydd: John Veysey |