George Gilbert Scott | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1811 ![]() Gawcott ![]() |
Bu farw | 27 Mawrth 1878 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | pensaer ![]() |
Adnabyddus am | Eglwys Gadeiriol Christchurch, Eglwys y Santes Fair, Caeredin, Eglwys y Santes Fair, Glasgow, Eglwys Sant Nicholas, Hamburg ![]() |
Mudiad | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Tad | Thomas Scott ![]() |
Mam | Euphemia Lynch ![]() |
Priod | Caroline Oldrid ![]() |
Plant | George Gilbert Scott, John Oldrid Scott ![]() |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol, Marchog Faglor ![]() |
llofnod | |
![]() |
Pensaer o Sais oedd Syr (George) Gilbert Scott (13 Gorffennaf 1811 – 27 Mawrth 1878), un o benseiri mwyaf toreithiog ei oes. Cynlluniodd yn bennaf yn arddull yr Adfywiad Gothig. Yn ogystal â chynllunio nifer fawr o eglwysi ac adeiladau seicwlar o'r newydd, bu hefyd yn gyfrifol am atgyweirio cannoedd o eglwysi ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys pob cadeirlan canoloesol yng Nghymru heblaw Llandaf.[1]
Enw | Lleoliad | Sir | Dyddiad | Sylwadau | |
---|---|---|---|---|---|
Cofeb y Merthyron | Rhydychen | Swydd Rydychen | 1841–3 | Newydd | [2] |
Abaty Westminster | Llundain | Llundain Fwyaf | 1848–78 | Atgyweiriad | [3] |
Capel Coleg Caerwysg | Rhydychen | Swydd Rydychen | 1857–9 | Newydd | [2] |
Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad | Llundain | Llundain Fwyaf | 1862–75 | Newydd | [4] |
Capel Coleg Sant Ioan | Caergrawnt | Swydd Gaergrawnt | 1863–9 | Newydd | [5] |
Cofeb y Tywysog Albert | Llundain | Llundain Fwyaf | 1864–71 | Newydd | [6] |
Gorsaf reilffordd St Pancras | Llundain | Llundain Fwyaf | 1866–76 | Newydd | [7] |
Prifysgol Glasgow | Glasgow | Glasgow | 1867–70 | Newydd | [8] |
Cadeirlan Protestanaidd (Esgobol) y Santes Fair | Caeredin | Caeredin | 1874–80 | Newydd | [9] |
Mae'r rhestr yma mor gyflawn ag sy'n bosib.
Enw | Lleoliad | Sir | Dyddiad | Sylwadau | |
---|---|---|---|---|---|
Eglwys Dewi Sant | Abergwili | Sir Gâr | 1843 | Newydd | [10] |
Priordy Sant Ioan | Aberhonddu | Powys | 1860–2; 1872–5 | Atgyweiriad | [11] |
Eglwys Gadeiriol Bangor | Bangor | Gwynedd | 1868–73 | Atgyweiriad | [12] |
Eglwys Crist | Bwlch-y-cibau | Powys | Tua 1864 | Atgyweiriad | [13] |
Eglwys Sant Iago | Bylchau | Conwy | 1857 | Newydd | [13] |
Eglwys Cybi Sant | Caergybi | Ynys Môn | 1877–9 | Atgyweiriad | [14] |
Eglwys y Santes Fair | Cas-gwent | Sir Fynwy | ? | Atgyweiriad; mae gwaith Scott bellach wedi'i ddymchwel | [5] |
Eglwys Sant Elidyr | Cheriton | Sir Benfro | 1851 | Atgyweiriad | [15] |
Eglwys Santes Ffraid a Sant Cwyfan | Diserth | Sir Ddinbych | 1871 | Atgyweiriad | [9] |
Eglwys y Santes Fair | Y Fenni | Sir Fynwy | Erbyn 1881 | Atgyweiriad | [10] |
Eglwys Santes Elisabeth | Glasinfryn | Gwynedd | Tua 1871 | Newydd | [16] |
Eglwys Sant Sadwrn | Henllan | Sir Ddinbych | ? | Atgyweiriad | [17] |
Eglwys Sant Teilo | Llandeilo | Sir Gâr | 1848–51 | Newydd, ag eithrio'r tŵr | [18] |
Eglwys Sant Mellon | Llaneirwg | Caerdydd | 1859 | Atgyweiriad | [7] |
Eglwys Gadeiriol Llanelwy | Llanelwy | Sir Ddinbych | 1866–9 (cangell); 1871 (reredos) | Atgyweiriad | [7] |
Eglwys Sant Centigern a Sant Asaph | Llanelwy | Sir Ddinbych | Tua 1872 | Atgyweiriad | [7] |
Eglwys Sant Paul | Llanelli | Sir Gâr | 1857 | Newydd | [18] |
Eglwys y Santes Fair | Llanfair-is-gaer | Gwynedd | 1865 | Atgyweiriad | [19] |
Eglwys Sant Mihangel | Llanfihangel Aberbythych | Sir Gâr | 1846–1848 | Atgyweiriad | [20] |
Plasdy Hafodunos | Llangernyw | Conwy | 1861–6 | Newydd | [18] |
Abaty Glyn y Groes | Llangollen | Sir Ddinbych | 1872 | Atgyweirio wyneb y gorllewin | [18] |
Eglwys Sant Iago | Llawr y Betws | Gwynedd | 1864 | Newydd | [18] |
Eglwys Sant Curig | Llangurig | Powys | 1876–80 | Atgyweiriad | [18] |
Eglwys Dewi Sant | Llywel | Powys | 1869 | Atgyweiriad | [18] |
Eglwys Sant Andreas | Norton | Powys | Erbyn 1868 | Atgyweiriad | [21] |
Eglwys Sant Deiniol | Penarlâg | Sir y Fflint | 1857–61 | Atgyweiriad | [17] |
Cofadail Deon Ripon, Eglwys Sant Seiriol | Penmaenmawr | Conwy | ? | Newydd | [2] |
Eglwys y plwyf (dim cysegriad i sant)[22] | Pentrefoelas | Conwy | 1857 | Newydd | [2] |
Eglwys y Santes Fair | Rhuddlan | Sir Ddinbych | 1868 | Atgyweiriad | [23] |
Eglwys Sant Tomos | Y Rhyl | Sir Ddinbych | 1860; 1874 (meindwr) | Newydd | [23] |
Eglwys Sant Hilari | Sain Hilari, Llan-fair | Bro Morgannwg | Tua 1861–2 | Atgyweiriad | [7] |
Eglwys Betws Penpont | Y Trallwng | Powys | 1854 | Newydd | [2] |
Eglwys y Drindod Sanctaidd, persondy ac ysgol | Trefnant | Sir Ddinbych | 1855 | Newydd | [24] |
Eglwys Sant Ioan | Trofarth, Betws-yn-Rhos | Conwy | 1873 | Newydd | [24] |
Eglwys Sant Cwyfan | Tudweiliog | Gwynedd | 1850 | Newydd | [24] |
Eglwys Gadeiriol Tyddewi | Tyddewi | Sir Benfro | 1864–76 | Atgyweiriad | [7] |
Eglwys y Santes Fair | Yr Wyddgrug | Sir y Fflint | 1865 | Atgyweiriad | [21] |