George Newnes

George Newnes
Ganwyd13 Mawrth 1851 Edit this on Wikidata
Matlock Bath Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1910 Edit this on Wikidata
o diabetes Edit this on Wikidata
Lynton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Dinas Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolygydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadThomas Mold Newnes Edit this on Wikidata
PriodPriscilla Jenny Newnes Edit this on Wikidata

Roedd Syr George Newnes Bt (13 Mawrth 18519 Mehefin 1910) yn gyhoeddwr ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Abertawe[1]

Cefndir ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd George Newnes ym Matlock Bath. Roedd ei dad, Thomas Mold Newnes, yn weinidog ar yr eglwys Annibynnol yng Nghapel Glenorchy,Matlock, Swydd Derby.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Silcoates ac yna yn Shireland Hall, Swydd Warwick, a'r City of London School.[2]

Priododd Priscilla Hillyard ym 1875.

Newnes-Spy-1894

Dechreuodd Newens yn y byd gwaith ym 1867 trwy werthu "nwyddau ffansi" yn Llundain a Manceinion.

Dechreuodd ei yrfa yn y maes cyhoeddi ym 1881 pan sefydlodd y cylchgrawn Tit Bits. Roedd y cylchgrawn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym Manceinion, yn cynnwys dyfyniadau o lyfrau a chyhoeddiadau eraill. I ariannu'r cylchgrawn agorodd bwyty llysieuol ym Manceinion. Er mwyn cynyddu gwerthiant y cylchgrawn cyflwynodd Newens y syniad o gael cystadlaethau efo gwobrau mewn cyhoeddiad.

Ym 1884 symudodd Newnes ei fusnes cyhoeddi i Lundain. Dechreuodd cydweithio a WT Stead, gyda'r hwn y sefydlodd yr Review of Reviews ym 1890.

Erbyn diwedd y 19g roedd Tit Bits wedi cyrraedd cylchrediad o 700,000. Bu'r cylchgrawn yn ddylanwadol yn natblygiad newyddiaduraeth boblogaidd. Bu Alfred Harmsworth sefydlydd y Daily Mail yn gyfrannwr i Tit -Bits, a lansiwyd y Daily Express gan Arthur Pearson a fu'n gweithio Tit-Bits am gyfnod o bum mlynedd ar ôl ennill cystadleuaeth i gael swydd ar y cylchgrawn.

O bosib, cyhoeddiad mwyaf adnabyddus Newens oedd The Strand Magazine[3] , a gychwynnwyd ym 1891; dyma'r gylchgrawn dechreuodd cyhoeddi hanesion Sherlock Holmes ditectif enwog Syr Arthur Conan Doyle.

Ym mysg y teitlau eraill a gyhoeddwyd gan Newens oedd The Westminster Gazette (1873), The Wide World Magazine (1888), a Country Life (1897). Ym 1891 cafodd ei fusnes cyhoeddi ei droi yn gwmni cyfyngedig a oedd yn dwyn ei enw George Newnes Ltd.

Gyrfa Gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Yn wleidyddol roedd Newnes yn Rhyddfrydwr ac roedd un o'i gylchgronau, The Westminster Gazette, yn chware rhan dylanwadol iawn wrth hybu achos Rhyddfrydiaeth. Ym 1885 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Dwyrain Swydd Gaergrawnt. Daliodd y sedd am ddeng mlynedd, cyn cael ei drechu gan y miliwnydd Ceidwadol, Harry McCalmont ym 1895. Ym 1895 fe'i urddwyd yn farwnig.

Cafodd ei ail-ethol i Dŷ'r Cyffredin y 1900 fel AS etholaeth Abertawe, gan dal gafael ar y sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd yn etholiad cyffredinol mis Ionawr 1910. Doedd o ddim yn Aelod gweithgar dros yr etholaeth a bu llawer o gwynion yn y wasg Gymreig am ei ddiffyg presenoldeb yn Nhŷ'r Cyffredin a'i ddiffyg diddordeb yn ei etholaeth.[4]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]
Cerflyn o Syr George Newnes yn Lynton, Dyfnaint - geograph.org.uk - 937199

Bu farw Syr George Newnes yn ei gartref yn Lynton, Dyfnaint, ym mis Mehefin 1910 o ddiabetes. Olynwyd ef yn y farwnigaeth gan ei fab, Frank Newnes, Aelod Seneddol Bassetlaw, Swydd Nottingham o 1906- 1910.

Cwmni cyhoeddi

[golygu | golygu cod]

Parhaodd George Newnes Ltd i gyhoeddi yn hir ar ôl marwolaeth ei sylfaenydd, daeth y cwmni yn rhan o IPC Media, sydd bellach yn gangen o gwmni cyhoeddi Time Warner Incorporated. Mae llyfrau gwyddonol o dan y argraffnod Newnes yn parhau i gael eu cyhoeddi gan gwmni Elsevier.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Yesterday's Papers [1] adalwyd 26 Rhagfyr 2014
  2. Cardiff Times — 22 Medi 1900
  3. CYHOEDDIADAU MRI. GEORGE NEWNES CYF yn Goleuad 10 Mawrth 1909; Papurau Cymru arlein [2] adalwyd 26 Rhagfyr 2014
  4. Dissatisfied with Sir George Newnes Cambrian 29 Ionawr 1904 [3] adalwyd 26 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Talbot Dillwyn Llewellyn
Aelod Seneddol dros Abertawe
19001910
Olynydd:
Syr Alfred Mond