Gerallt Gymro | |
---|---|
Cerflun o Gerallt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi | |
Ganwyd | c. 1146 Castell Maenorbŷr |
Bu farw | 1220s Henffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mapiwr, hanesydd, llenor, gwleidydd, offeiriad Catholig |
Swydd | caplan |
Adnabyddus am | Topographia Hibernica |
Tad | William de Barri |
Mam | Angharad ferch Nest |
Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146 – c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol o Gymru. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri (Ffrangeg Normanaidd). Roedd yn ysgolhaig a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner Normanaidd ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y 12g.
Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith Ladin. Fe'i ganwyd yn 1146 yng nghastell Maenor Bŷr, Sir Benfro yn fab i Angharad, merch Nest (fl.1100-1120), merch Rhys ap Tewdwr) a William de Barri, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri.
Rhwng c.1162-74 bu'n fyfyriwr ym Mharis.
Treuliodd gyfnod fel archddiacon Brycheiniog yn Aberhonddu. Roedd ei ewythr Dafydd (neu 'David FitzGerald'), yn esgob Tyddewi, a phan fu farw yn 1176 dewisodd y Cymry Gerallt i'w olynu, ond gwrthododd Archesgob Caergaint ei dderbyn gan benodi Sais yn ei le. Dyna un rheswm pam yr oedd Gerallt yn gobeithio y byddai'r Cymry yn gallu herio awdurdod Caergaint. Erbyn 1176/7-79 roedd yn ôl ym Mharis, yn astudio'r gyfraith a diwinyddiaeth.
Oddeutu 1184 fe'i penodwyd yn glerc yn llys Harri II.[1] Yn 1185 hwyliodd i'r Iwerddon yng ngosgordd y Tywysog John, mab Harri II. Ffrwyth y daith oedd dau lyfr Topographia Hibernie (Hanes Lleoedd Iwerddon) (1188) a Expurgnatto Hibernica (Hanes Goresgyniad Iwerddon) (1189).
Yn 1188 roedd Baldwin, Archesgob Caergaint, am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r Drydedd Groesgad ac i ymweld ag eglwysi cadeiriol Cymru i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).
Dechreuodd y daith yn Henffordd; aethant wedyn drwy Ddyffryn Wysg i'r Fenni, ac yna trwy Frynbuga i Gaerlleon. Aethant yn eu blaenau i eglwys gadeiriol Llandaf, Abaty Margam, Cydweli a Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf ac wedyn eglwys gadeiriol Tyddewi. Teithio tua'r gogledd wedyn, i Ystrad Fflur a mynachlog Llanbadarn Fawr a chyrraedd y drydedd eglwys gadeiriol ym Mangor a'r bedwaredd yn Llanelwy. Ar ddiwedd y daith dychwelodd yr Baldwin i Loegr.
Ar y daith roedd tua thair mil o wŷr wedi addo ymuno yn y Groesgad, ond yn y diwedd ychydig iawn a aeth.
Yn 1194 bu iddo adael llys Angevin a bu'n astudio yn Henffordd; erbyn 1196 symudodd i Lincoln. Yn 1198 cafodd ei enwebu'n esgob Tyddewi. Rhwng 1199-1203 bu ar dair taith i lys y Pab Innocentius III yn Rhufain er mwyn ennill cadarnhad y Pab i'w etholiad yn esgob Tyddewi, a chodi statws eglwys Tyddewi fel archesgobaeth i Gymru, yn annibynnol o Gaergaint. Ond dyfarnodd y Pab yn erbyn Gerallt yn y ddau achos. Yn 1206 bu ar bererindod arall i Rufain ac erbyn 1207 gwyddom iddo ymddeol i Lincoln.
Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr yn ei oes. Astudiodd yn ysgol eglwys Sant Pedr yng Nghaerloyw, ym Mharis ac yn Lincoln. Yn ogystal â Hanes y Daith trwy Gymru, ysgrifennodd sawl llyfr arall, i gyd mewn Lladin, gan gynnwys disgrifiad o Iwerddon (Topographia Hibernica) yn 1188, y Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae) rhwng 1193 a 1215, a'r Speculum Duorum, gwaith athronyddol, yn 1216. Ysgrifennodd hefyd Expugnatio Hibernica ("Concwest Iwerddon") a nifer o ysgrifau.