Math | gardd fotaneg, llysieufa, sefydliad addysg uwch, gardd |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Richmond upon Thames |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 272.32 ha |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4789°N 0.2936°W |
Cod OS | TQ1793776087 |
Rheolir gan | Royal Botanic Gardens, Kew |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd I, Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Gardd fotanegol yn Kew, Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Gerddi Kew. Mae'n cynnwys un o gasgliadau botanegol a mycolegol mwyaf, a mwyaf amrywiaethol y byd.[1] Fe'i sefydlwyd yn 1840 o'r ardd ecsotig ym Mharc Kew yn Middlesex, Lloegr. Mae casgliad byw yr ardd yn cynnwys mwy na 30,000 math gwahanol o blanigion, tra bo'r llysieufa, un o'r rhai mwyaf yn y byd, yn cynnwys dros saith miliwn o esiamplau o blanhigion wedi eu gwasgu. Mae'r llyfrgell yn cynnwys dros 750,000 o gyfrolau, ac mae'r casgliad darluniau yn cynnwys mwy na 175,000 o brintiau a darluniadau o blanhigion. Mae'n un o atuniadau mwyaf poblogaidd Llundain a fe'i gydnabyddir fel Safle Treftadaeth y Byd.
Mae Kew yn cynnwys y gerddi eu hunain, yn ogystal â chymuned leol fechan. Gwelwyd cartref brenhinol yn yr ardal yn gyntaf yn 1299 pan symudodd Edward I ei lys i faenordy gerllaw yn Richmond (neu Sheen fel y'i gelwid ar y pryd). Fe adawyd y maenordy hwnnw wedyn, ond adeiladodd Harri VII Balas Sheen (Palas Richmond erbyn hyn) yn 1501, a daeth hwnnw'n gartref brenhinol parhaol[2][3][4] Oddeutu dechrau'r 16g, ymgartrefodd gwŷr llys Plas Richmond yn Kew, gan adeiladu tai mawr.[5] Roedd y tai hyn yn cynnwys tŷ Mari Tudur, ac adeiladwyd ffordd i gysylltu'r tŷ hwnnw â Phalas Richmond yn 1522. Oddeutu 1600, adnabyddid y tir lle mae Gerddi Kew heddiw fel Maes Kew, cae mawr oedd yn cael ei ffermio gan un o'r ystadau preifat newydd ar y pryd.[6][7]
Gellir olrhain dechreuad Gerddi Kew yn ôl i pan gyfunwyd ystadau brenhinol Richmond a Kew yn 1772.[8] Adeiladodd William Chambers lawer o adeiladau gardd, gan gynnwys y pagoda Tsieiniaidd sy'n dal yn y gerddi hyd heddiw yn 1761. Ychwanegodd Sior III at y gerddi gyda chymorth William Aiton a Joseph Banks.[9]
Gwnaethwyd Gerddi Kew yn ardd fotanegol genedlaethol yn 1840.[10] Yn dilyn hynny, helaethwyd yr ardd i fod yn 30 hectr (75 erw) a'r goedardd i fod yn 109 hectr (270 erw), ac wedyn yn 121 hectr (300 erw).
Adeiladwyd y Tŷ Palmwydd gan y pensaer Decimus Burton a'r gwnaethurwr haearn Richard Turner rhwng 1844 a 1848. Dyma'r tro gyntaf i haearn gyr gael ei ddefnyddio ar raddfa mor fawr. Fe'i cydnabyddir fel adeilad haearn a gwydr Fictorianaidd mwyaf pwysig y byd.[11][12] Adeiladwyd y Tŷ Tymherol, sydd ddwywaith mor fawr a'r Tŷ Palmwydd, wedyn yn y 19g. Dyma'r tŷ gwydr Fictorianaidd mwyaf yn y byd heddiw.
Ym mis Chwefror 1913, llosgwyd y Tŷ Te yng Ngerddi Kew i'r llawr gan y swffragetiaid Olive Wharry a Lilian Lenton fel rhan o gyfres o dannau bwriadol yn Llundain.[13]
Collodd Gerddi Kew gannoedd o goed yn Storm Fawr 1987.[14]
Rhwng 1959 a 2007, Gerddi Kew oedd gan y polyn fflag talaf ym Mhrydain. Fe godwyd y polyn - wedi ei wneud o un goeden Ffynidwydden Douglas o Ganada - i ddathlu canmlwyddiant talaith British Columbia a dauganmlwyddiant Gerddi Kew. Bu'n rhaid tynnu'r polyn i lawr yn 2007 oherwydd fod difrod tywydd a chnocellod y coed wedi ei wneud yn beryglus.[15]
Ym mis Gorffennaf 2003, rhoddodd UNESCO y gerddi ar eu rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd.[16]
Cwblhawyd prosiect pum mlynedd a gostiodd £41 miliwn i adnewyddu'r Tŷ Tymherol ym mis Mai 2018.[17]