Gethin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1978 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd, chwaraewr rygbi'r undeb, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyflwynydd teledu yw Gethin Clifford Jones (ganwyd 12 Chwefror 1978). Cychwynodd ei yrfa gyflwyno ar raglenni Uned 5 a Popty ar S4C. Ar 27 Ebrill 2005, daeth yn 31ain cyflwynydd Blue Peter, y rhaglen deledu hir-hoedlog i blant ar y BBC. Daeth ei gyfnod ar y sioe i ben yn Mehefin 2008.
Ganwyd Jones yng Nghaerdydd, yn fab i Sylvia (née Groskop), athrawes feiloin, a Goronwy Jones, prifathro Ysgol Gynradd Baden Powell. Mae ganddo chwaer hŷn, Mererid.[1] Roedd un o'i hen ddadcu-od ar ochr ei fam yn mewnfudwr Iddewig Pwylaidd.[2][3] Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, a mynychodd Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae ganddo gymwysterau Gradd 8 feiolin a Gradd 6 piano gan Fwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol,[4] a cymerodd ran mewn sioeau cerdd yn yr ysgol a chwarae mewn cherddorfeydd ysgol a sirol. Ar gyfer ei Lefel A dewisodd astudio Bioleg, Daearddiaeth ac Economeg [5][6][7]
Roedd gan Jones dau brif ddiddordeb yn yr ysgol. Roedd ei fam am iddo ddatblygu eu dalentau cerddorol, tra roedd e'n mwynhau chwarae rygbi. Tra'n astudio Economeg a Daearyddiaeth ym Prifysgol Fetropolitan Manceinion, lle enillodd radd 2:2,[4][6] roedd yn gapten tim rygbi cyntaf y brifysgol a chwaraeodd yn nhîm dan 21 Swydd Gaerhirfryn. Yn ei flwyddyn olaf yn y coleg, cynigiwyd prawf iddo gan Sale RFC.[6] Fodd bynnag, ar ôl i'w dad wrthod cynnig o gymorth ariannol ac fe gafodd trafferthion yn ceisio chwarae tra hefyd yn gweithio fel hyfforddwr gampfa, gan weld fod ei berfformiad ar y cae yn dioddef. Yn y pen draw, rhoddodd y gorau i'w gynlluniau ar gyfer gyrfa rygbi broffesiynol a dychwelodd i Gymru.[5]
Roedd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[8][9][10]
Cymrodd ran ar raglen Strictly Come Dancing ar BBC One, gan ddawnsio am y tro cyntaf ers iddo ddawnsio a chanu gwerin yn Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn iau.[11][12]
Ar 6 Chwefror 2011, cyhoeddwyd ei fod wedi dyweddïo i'w gariad, y gantores Katherine Jenkins.[13] Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2011 cyhoeddwyd fod y berthynas wedi dod i ben.
Rhagflaenydd: Simon Thomas |
Cyflwynydd Blue Peter Rhif 31 2005 – 2008 |
Olynydd: Joel Defries |