Ghadir Shafie | |
---|---|
Ganwyd | Acre ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ymgyrchydd ![]() |
Mae Ghadir Shafie (hefyd Ghadir Al Shafie, Arabeg غدير الشافعي) a aned yn Acre, Palesteina [1] yn ymgyrchydd ac yn actifydd Palesteinaidd ac yn ffeminist.[2] Hi yw cyd-gyfarwyddwr y mudiad Aswat, sef sefydliad i ferched hoyw Palesteinaidd; mae'n aelod o Aswat ers 2008.[3][4]
Mae Shafie yn feirniad llym o'r ymarfer o binc-galchu gan Israel.[4][5] Cafodd yr ymadrodd hwn, 'pinc-galchu' neu pinkwashing, ei fathu gan Sarah Schulman mewn mewn erthygl ganddi yn The New York Times o'r enw "Israel a Pinkwashing".
Beirniadodd ymdrechion Israel i hyrwyddo hawliau LGBT i Balesteiniaid yn hallt, gan ysgrifennu bod yr ymdrechion hyn yn sicrhau "bod addysg rhywioldeb yn cael ei darparu'n ddi-hid yn unig gan bobl nad ydyn nhw'n Balesteiniaid i Balesteiniaid" ac na allant gyfrif am wahaniaethau iaith a diwylliant. Mewn cyfweliad â Middle East Eye, dywedodd Shafie mai'r "eiliad rydyn ni'n cynrychioli ein hunain fel Palesteiniaid hoyw ac yn siarad am wleidyddiaeth, dyma ddiwedd y stori" a bod Israel eisiau i Balesteiniaid queer "fod yn ddioddefwyr ein cymdeithas ein hunain, ac maen nhw eisiau cael eu gweld gan y byd fel achubwyr."[6]
Mae Shafie yn gefnogwr o'r mudiad byd-eang, Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau, gan ei ddisgrifio fel "yr unig ymdrech sy'n cydnabod ac yn pwysleisio'r angen i gydnabod ein hawliau fel Palesteiniaid."[3] Mae ei gwaith eiriolaeth yn cynnwys elfennau gwrth-Seioniaeth.[7]
Yn 2011, trefnodd Sarah Schulman daith i annerch cymdeithasau yn yr Unol Daleithiau gyda Shafie yn ogystal â Haneen Maikey ac un actifydd Palesteinaidd hoyw arall. Cynhaliodd y siaradwyr ddigwyddiadau mewn chwe dinas yn Chwefror 2011.[8]
Ym Mawrth 2015, mynychodd Shafie gynhadledd o'r enw "Rhywioldebau a Dychmygwyr Queer yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica" ac a gynhaliwyd gan raglen Astudiaethau'r Dwyrain Canol yn Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol Watson ym Mhrifysgol Brown. Siaradodd fel rhan o banel a oedd yn canolbwyntio ar Balesteina.[9]
Ym Mai 2016, roedd Shafie yn un o lofnodwyr datganiad gan weithredwyr ffeministaidd Palesteina yn cefnogi penderfyniad y Gymdeithas Astudiaethau Menywod Genedlaethol i gefnogi'r Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau.[10]
Cafodd Shafie ei eni a'i fagu yn Acre, Palesteina ac mae hi'n dal i fyw yno gyda'i mab Jude.[11]
Mae Shafie yn hoyw[9] ac mae hi wedi disgrifio profi hiliaeth a gwahaniaethu gan Israeliaid Iddewig yn ninasoedd Israel.[7]