Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Ismail Kadare |
Gwlad | Albania |
Iaith | Albaneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1963 |
Genre | nofel hanesyddol |
Lleoliad cyhoeddi | Albania |
Lleoliad y gwaith | Albania |
Nofel gan yr awdur Ismail Kadare (g. 1936) o Albania yw Gjenerali i ushtrisë së vdekur ("Cadfridog y Fyddin Farw") a gyhoeddwyd gyntaf yn Albaneg ym 1963. Mae'r stori yn ymwneud â chadfridog ac offeiriaid o'r Eidal yn chwilio am gyrff milwyr a fu farw yn Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gosodir y stori yn y flwyddyn 1961, rhyw ugain mlynedd wedi cyfnod y brotectoriaeth (1939–43), pan gafodd Albania ei goresgyn a'i meddiannu gan luoedd yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Traethir hanes dau swyddog o fyddin yr Eidal, y cadfridog a'r caplan (offeiriad o reng cyrnol), a gafodd eu hanfon i Albania i ganfod a chasglu gweddillion unrhyw filwyr Eidalaidd a fu ar goll ar faes y gad, a'u dychwelyd i'r Eidal i'w claddu. Ymddiriedwyd yn arbennig gan weddw aristocrataidd iddynt ddychwelyd corff "y Cyrnol Z", ei gŵr a ddiflannodd ar ddiwedd yr ymgyrch Eidalaidd yn Albania. Wrth i'r ddau ddyn drefnu cloddfeydd a cheisio canfod cyrff, maent yn synnu ar faint y gwaith sydd o'u blaen. Trafodir y cadfridog a'r offeiriad am ystyr, neu ddiffyg ystyr, rhyfel, ac y maent yn amau ai ofer yw eu gorchwyl. Wrth iddynt dreiddio i berfeddion y wlad, cyfarfyddant â chadfridog o'r Almaen ar genhadaeth debyg, yn chwilio am gyrff milwyr a laddwyd yn ystod meddiannaeth y wlad gan yr Almaen Natsïaidd (1943–44).
Cafodd Kadare y syniad ar gyfer y nofel wedi iddo gyfarfod â diplomydd o'r Eidal yng nghaffi'r Hotel Dajti yn Tirana, prifddinas Albania, a anfonwyd i'r wlad i geisio lleoli, datgladdu, a dychwelyd cyrff milwyr Eidalaidd yn ôl i'w mamwlad. Fodd bynnag, ni châi unrhyw gais o'r fath ei dderbyn gan lywodraeth Albania hyd nes cwymp y drefn sosialaidd.[1] Anogwyd Kadare i ysgrifennu'r nofel gan Drago Siliqi, beirniad a chyfarwyddwr Sh.B. "Naim Frashëri", y wasg argraffu wladol. Gorffennodd y llawysgrif ym 1962, a fe'i cyhoeddwyd gan Sh.B. "Naim Frashëri" y flwyddyn olynol pan oedd yr awdur yn 26 oed. Ni chafodd y nofel ei chroesawu yn gyntaf yn Albania, am nad oedd yn waith ymwybodol sosialaidd, ac felly cafodd yr awdur ei ddrwgdybio o fod yn ffafriol i wledydd y Gorllewin. Cafodd dderbyniad gwell ym Mwlgaria ac Iwgoslafia.[2] Aeth Kadare ati i olygu fersiwn arall o'r testun, a chyhoeddwyd yr argraffiad "terfynol" ym 1967. Troswyd y testun hwnnw i'r Ffrangeg ym 1970, a daeth yn boblogaidd trwy gyfieithiadau i ieithoedd eraill.[1] Bellach, fe'i ystyrir yn un o nofelau enwocaf Kadare, os nad ei gampwaith.
Mae'r nofel wedi ysbrydoli tair ffilm: yr addasiad Eidaleg Il generale dell'armata morta (1983), yr addasiad Albaneg Kthimi i ushtrisë së vdekur (1989), a'r ffilm Ffrangeg La vie et rien d'autre (1989) sydd yn newid cefndir y stori o feddiannaeth Albania yn yr Ail Ryfel Byd i i Ffrynt y Gorllewin yn y Rhyfel Byd Cyntaf.