Yn llên gwerin yr Iddewon, creadur heb enaid a greir o ddeunydd difywyd yw golem (Hebraeg: גולם golem; yngenir weithiau, fel yn achos yr Almaeneg Iddewaidd, fel goilem). Yn Hebraeg modern, ystyr llythrennol golem yw "cocŵn", ond gallai olygu "ffwl", "gwirion", neu "hurt(yn)" hefyd. Ymddengyd fos y gair yn tarddu o'r gair Hebraeg gelem (גלם), sy'n golygu "deunydd crai".
Yn y Beibl mae'r gair golem yn golygu deunydd anghyflawn neu gnewyllyn. Yn y Mishnah mae'n golygu person heb ddiwylliant ac yn derm sarhaus, ac yn yr Almaeneg Iddewaidd (Yiddish) mae'n golygu "(rhywun) trwsgl".
Yn y Talmud mae Adda yn cael ei greu fel golem trwy fowldio ei glai; felly hefyd y mae'r doethwr neu ddewin Iddewig yn creu'r golem i'w wasanaethu. I gwblhau'r gwaith, yngenir y fformiwla hud a lledrith "Abracadabra".
Y chwedl enwocaf o blith sawl un am y golem yw chwedl y Rabbi Judah Loew ben Bezalel, a greodd golem i amddiffyn geto Iddewig Prâg yn yr 16g.