Golff yng Nghymru

Celtic Manor cartref Cwpan Ryder 2010

Mae golff yn gamp boblogaidd yng Nghymru. Gall Cymru recordio ei chyrsiau cyntaf yn ôl i'r 1880au, a heddiw mae ganddi dros 200 o glybiau. Cynhaliwyd y gystadleuaeth golff amatur gyntaf ym 1895 ac roedd y bencampwriaeth broffesiynol gyntaf ym 1904. Mae Cymru wedi cynhyrchu sawl chwaraewr o bwys, gan gynnwys, Ian Woosnam, sydd wedi ennill un o brif bencampwriaethau golff dynion ac mae Cymru wedi ennill Cwpan y Byd i ddynion ddwywaith, ym 1987 a 2005. Cynhaliodd Cymru Gwpan Ryder hefyd, pan gafodd ei gynnal yn y Celtic Manor Casnewydd yn 2010.

Mae golff yng Nghymru yn olrhain ei wreiddiau i'r 1880au. Adeiladwyd y cwrs cynharaf ym Mhontnewydd yn Sir Fynwy ym 1875, ond cwrs byr oedd hwn. Erbyn canol y 1880au adeiladwyd cyrsiau naw twll mewn sawl safle yng Nghymru ar dir comin arfordirol lle'r oedd y dywarchen yn dderbyniol.[1] Mae sawl safle yn honni ei fod yn gartref i'r clwb golff hynaf yng Nghymru, er y derbynnir yn gyffredinol mai clwb Dinbych-y-pysgod, a ffurfiwyd ym 1888, oedd y cyntaf, gyda thystiolaeth bod y gêm wedi'i ei chwarae yno ers, o leiaf, 1875.[2] Mae cwrs cynnar arall i'w gael yn ymestyn rhwng Borth ac Ynyslas sydd wedi cael ei ddefnyddio ers 1885. Mae cyrsiau eraill o'r 19eg ganrif, unwaith eto i gyd yn arfordirol, yn cynnwys Conwy (1890), Penarth (1890), Porthcawl (1891) ac Aberdyfi (1892). Rhoddodd agor y rheilffyrdd cynnar a'r dwristiaeth gynyddol yng Nghymru gyfleoedd i'r cyrsiau newydd hyn ddenu ymwelwyr. Er, wrth i glybiau golff Cymru gael eu creu a'u rhedeg gan y dosbarth canol i ddechrau, roedd y gamp yn dioddef o'r farn ei fod yn gêm i Saeson ac yn elitaidd.

Ers y dyddiau cynnar, mae Cymru wedi coleddu golffwyr gwrywaidd a benywaidd. Ffurfiwyd Undeb Golff Cymru ym 1895, yr ail hynaf yn y Byd y tu ôl i'w gymar yn Iwerddon;[3] tra sefydlwyd Undeb Golff Merched Cymru ym 1904. Sefydlwyd Golff Cymru,[4] sy'n llywodraethu'r gamp yng Nghymru, yn 2007 ar ôl uno Undeb Golff Merched Cymru ac Undeb Golff Cymru.[5]

Golffwyr Cymreig

[golygu | golygu cod]
Woosnam ym 1989

Dai Rees oedd un o'r golffwyr Cymreig llwyddiannus cyntaf, yn gapten ar y tîm buddugol yng Nghwpan Ryder Ewrop ym 1957. Mae Cymru wedi ennill Cwpan y Byd golff ar ddau achlysur, gyda pharu David Llewellyn ac Ian Woosnam yn codi'r tlws yn Hawaii ym 1987, ac eto yn 2005, gyda Stephen Dodd a Bradley Dredge yn ennill ym Mhortiwgal.

Mae Ian Woosnam yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Cymru. Nid yn unig yn ennill Cwpan y Byd 1987, ef hefyd yw'r unig Gymro i ennill pencampwriaeth fawr, pan gipiodd Cystadleuaeth y Meistri 1991 yn Augusta.[6] Y flwyddyn honno hefyd fe gyrhaeddodd y lle cyntaf ar Restr swyddogol golffwyr gorau'r byd, gan dreulio 50 wythnos ar frig y rhestr, dim ond pedwar golffiwr sydd wedi dal y teitl yn hirach. Yna cyflawnodd Woosnam camp ei gydwladwr Rees pan arweiniodd Ewrop i fuddugoliaeth yn erbyn UDA yng Nghwpan Ryder 2006.[7]

Mae Cymru wedi cyflenwi saith aelod o dimau cwpan Ryder Prydain & Iwerddon ac wedyn Ewrop. Y cyntaf oedd Bert Hodson, a chwaraeodd i dîm Charles Whitcombe ym 1931. Chwaraeodd Hodson mewn un rownd yn unig, gan golli i Denny Shute.[8] Chwaraeodd Dai Rees mewn tri Chwpan Ryder, a'i gapteniaeth ym 1957 oedd yr unig dro i'r Americanwyr gael eu curo rhwng 1933 a 1985.[9] Chwaraeodd Dave Thomas mewn pedair Cwpan Ryder rhwng 1959 a 1967, gan golli dim ond un o'i bum gêm sengl. Chwaraeodd Brian Huggett mewn chwe Chwpan Ryder ac ym 1977 oedd capten nad oedd yn chwaraewr yr ochrau, y tro diwethaf i dîm Prydain & Iwerddon cystadlu yn y twrnamaint. Chwaraeodd Woosnam mewn wyth tîm yn olynol. Yn 2002 fe gurodd Phillip Price Phil Mickelson yn ei gêm senglau. Chwaraeodd Jamie Donaldson yng Nghwpan Ryder 2014, gan guro Keegan Bradley 5 & 3 gan sicrhau bod Ewrop yn ennill y Cwpan.

Chwaraeodd Becky Brewerton yng Nghwpan Solheim 2007 a 2009. Gorffennodd hefyd yn drydydd yn Nhaith Ewropeaidd y Merched 2009.

Twrnameintiau yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y twrnamaint amatur cyntaf yng Nghymru ym 1895 yng Nghlwb Golff Aberdyfi ac yna ym 1901 daeth y clwb y cyntaf yng Nghymru i gynnal Pencampwriaeth Golff Amatur Merched Prydain.[2] Roedd y bencampwriaeth golff proffesiynol gyntaf yn Radyr ger Caerdydd ym 1904. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi cynnal sawl digwyddiad golff blynyddol, yn benodol Her Cymru (a sefydlwyd yn 2003), Pencampwriaeth Merched Cymru Ewrop (1996) a Phencampwriaeth Agored Pobl Hŷn Cymru (2001). Er gwaethaf proffil uwch golff yng Nghymru a gynhyrchwyd gan Gwpan Ryder yn 2010, cafodd y tri thwrnamaint eu dileu yn 2011. Ail gynhaliwyd Pencampwriaeth Pobl Hŷn Agored Cymru yn 2012 ar Gwrs Golff Conwy cafodd y twrnamaint ei ddiddymu eto yn 2017. Cynhaliwyd Pencampwriaeth Agored Hŷn Prydain 2014 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, y tro cyntaf i'r digwyddiad cael ei gynnal yng Nghymru,[10] dychwelodd y gystadleuaeth i Borthcawl yn 2017.[11] Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn un o'r cyrsiau mwyaf nodedig yng Nghymru ac yn y gorffennol mae wedi cynnal Cwpan Walker 1995, Pencampwriaeth Amatur chwe gwaith a Phencampwriaeth Merched Cymru.

Y Celtic Manor yng Nghasnewydd oedd lleoliad Cwpan Ryder 2010; y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru. Curodd Ewrop UDA 14½ pwynt i 13½ yn un o orffeniadau mwyaf dramatig y twrnamaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwnaeth y digwyddiad hanes hefyd trwy fod y Cwpan Ryder cyntaf i ymestyn dros bedwar diwrnod, yn dilyn glaw trwm trwy gydol y penwythnos.[12]

Golff a'r Gofid Mawr

[golygu | golygu cod]

Oherwydd cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i geisio rhwystro lledaeniad Cofid-19 bu'n rhaid i bob clwb golff yng Nghymru cau o 24 Mawrth 2020.[13] O 18 Mai 2020, rhoddwyd caniatâd i glybiau Golff ail agor gyda chyfyngiadau ar bethau megis pa mor bell oedd pobl yn cael teithio i chware a'r nifer oedd yn cael cyd chwarau.[14]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 325. ISBN 978-0708319543.
  2. 2.0 2.1 Jones, Ciaran (15 July 2010). "The history of golf in Wales". walesonline.co.uk. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  3. "Golf Courses in Wales". golfeurope.com. Cyrchwyd 15 February 2012.
  4. "Cymraeg". WalesGolf. Cyrchwyd 2020-06-10.
  5. "Golf Governing Bodies". Professional Golfers' Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2012. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  6. BBC Wales - Ian Woosnam: A career through the years adalwyd 10 Mehefin 2020
  7. Hodgetts, Rob (24 Medi 2006). "Ryder Cup 2006". BBC Sport. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  8. Carradice, Phil (28 Mai 2010). "Welsh Ryder cup players". BBC. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  9. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 733. ISBN 978-0708319543.
  10. "Wales set to host golf's 2014 Seniors Open". BBC Sport. 2 Medi 2011. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  11. BBC Wales Senior Open Championship to return to Royal Porthcawl in 2017 adalwyd 10 Mehefin 2020
  12. "Europe's Ryder Cup victory watched by thousands in sun". BBC News. 4 Hydref 2010. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
  13. "Welsh golf clubs to shut due to COVID-19 crisis". WalesGolf. 2020-03-24. Cyrchwyd 2020-06-10.
  14. Guidance for Playing Golf in Wales and UK Under COVID-19 Restrictions[dolen farw] adalwyd 10 Mehefin 2020