Sefydliad diwylliannol Cernywaidd a sefydlwyd i gynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw yw Gorseth Kernow ('Gorsedd Cernyw'). Mae'n cyfateb i Gorsedd y Beirdd yng Nghymru a Goursez Vreizh yn Llydaw ac yn cydweithredu â'r chwaer orseddau hynny.
'Arglwyddes Cernyw' a'i llawforynion yng Ngorseth 2007 (Penzance )
Sefydlwyd Gorseth Kernow gan Henry Jenner yn 1928 yn Boscawen-un . Un o arweinwyr cynnar i fudiad i ailsefydlu'r Gernyweg oedd Jenner, a chymerodd yr enw barddol 'Gwas Myghal' ("Gwas Mihangel "). Cafodd ef a deuddeg arall eu hurddo gan Archdderwydd Cymru. Cynhaliwyd y Gorseth bob blwyddyn ers hynny (ac eithrio yn yr Ail Ryfel Byd ). Mae'r rhai a urddwyd yn feirdd yn cynnwys Ken George , R. Morton Nance ("Mordon") a'r ysgolhaig Peter Berresford Ellis .
Amcan swyddogol Gorseth Kernow yw "cynnal ysbryd Celtaidd cenedlaethol Cernyw," ac mae'n cefnogi pob ymdrech i hyrwyddo'r iaith Gernyweg . Yn ogystal, mae'r Gorseth yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cernyw. Fe'i cynhelir yn flynyddol mewn gwahanol ardaloedd ac mae'n rhan bwysig o fywyd Cernyw, fel yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, gyda llawer o bobl yn cystadlu ynddi.
Urddir pobl sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwylliant Cernyw â'r teitl 'Bardd' (ni cheir 'derwyddon' ac 'ofyddion' fel yng Nghymru). Anrhydedd diwylliannol yw hyn, yn hytrach na chydnabyddiaeth o ragoriaeth fel bardd fel y cyfryw. Rhoddir enwau barddol Cernyweg i'r 'beirdd' hyn gan yr archdderwydd a'u derbyn i Goleg y Beirdd.
Cynhaliwyd y seremoni gyntaf yng ngylch cerrig Boscawen-Un yn 1928. John Owen Williams (Pedrog) , y bardd ac archdderwydd o Gymro, a agorodd yr orsedd, ar erfyniad Henry Jenner a Robert Morton Nance , ar batrwm Gorsedd y Beirdd yng Nghymru. Henry Jenner fu'r Prifardd cyntaf. Roedd y 'beirdd' eraill yn cynnwys:
Michael Ambrose Cardew, (Myghal An Pry)
Charles G. Henderson , (Map Hendra)
William Benjamin Tregoning Hooper, (Bras Y Golon)
James Dryden Hosken , (Caner Helles)
Kenneth Hamilton Jenkin , (Lef Stenoryon)
Syr Arthur Quiller-Couch , (Marghak Cough)
Edgar Algernon Rees, (Carer Losow)
George Sloggett, (Gwas Petrock)
Parch. Thomas Taylor , (Gwas Ust)
Herbert Thomas, (Barth Colonnek)
James Thomas, (Tas Cambron)
John Coulson Tregarthen , (Mylgarer)
Mae Gorseth Kernow yn cydnabod ac yn defnyddio pob fersiwn o'r iaith Gernyweg adfywiedig (gweler Cernyweg ).
1899 Cymru
Matthews, John Hobson (D) (Mab Cernyw)
Reynolds, Reginald (D) (Gwas Piran)
Reynolds, Hettie Tangye (D) (Merch Eia)
1903 Llydaw
Jenner, Henry (D) (Gwas Myghal)
1904 Cymru
Jenner, Katherine Lee (D) (Morvoren)
Jewell, L C Duncombe (D) (Bardd Glas)
1928 Cymru
Bluett, Albert Marwood (D) (Gwryghonen Vew)
Carah, Parch. James Sims (D) (Gwas Crowan)
Doble, Parch. Canon Gilbert Hunter (D) (Gwas Gwendron)
Nance, Robert Morton (D) (Mordon)
Pool, Annie (D) (Myrgh Piala)
Roberts, Trelawney (D) (Gonader A Bell)
Rowe, Joseph Hambley (D) (Tolzethan)
Watson, William Charles David (D) (Tirvab)
1928 Boscawen-Un
1929 Karnbre / Carn Brea
1930 The Hurlers
1931 Pensans / Penzance
1932 The Merry Maidens, St Buryan
1933 Roche Rock
1934 Padderbury Top, Menheniot
1935 Pensans / Penzance
1936 Kelly Round, Wadebridge / Pons War Wlan
1937 Boscawen-Un
1938 Trippet Stones, Bodmin
1939 Chylason, Carbis Bay ,
1940-1945 RIC (Amgueddfa Truro)
1946 Perran Round, Perranzabuloe
1947 Lanstefan / Launceston
1948 Carwyen, Cambron
1949 Mount Charles Menhyr
1950 Boscawen-Un
1951 Padstow / Lodenek
1952 Trethevy, St Cleer
1953 Trencrom, Lelant
1954 Castledore, Golant
1955 The Merry Maidens , St Buryan
1956 Castle Cannyck, Bodmin
1957 Predannack Cross, Mullion
1958 Perran Round, Perranzabuloe
1959 Kelliwik, Callington
1960 Cambron / Camborne
1961 Bude Castle
1962 Barrowfield, Newquay
1963 Giant's Rock, Zennor
1964 Tintagel
1965 Goodern, Kea
1966 Porthya / St Ives
1967 Essa / Saltash
1968 Lanust / St Just in Penwith
1969 Lyskerrys / Liskeard
1970 Perran Round, Perranzabuloe
1971 The Merry Maidens , St Buryan
1972 Castell Launceston / Dunheved
1973 Mount Charles Menhyr
1974 Glasney, Pennrynn / Penryn
1975 Bude Castle
1976 Heyl / Hayle
1977 Nine Maidens, St Columb Major
1978 Boscawen-Un
1979 Bosvenegh / Bodmin
1980 Essa / Saltash
1981 Nance, Illogan
1982 Lanust / St Just in Penwith
1983 St Kew
1984 Kelliwik / Callington
1985 Perran Round, Perranzabuloe
1986 The Merry Maidens , St Buryan
1987 Anthony House, Torpoint
1988 Poldhu , Mullion
1989 Lostwydhyel / Lostwithiel
1990 Marhasvean / Marazion
1991 Roche Rock
1992 Perran Round, Perranzabuloe
1993 Bude Castle
1994 Cambron / Camborne
1995 Marhasvean / Marazion
1996 Lyskerrys / Liskeard
1997 Bosvenegh / Bodmin
1998 Lanust / St Just in Penwith
1999 Heyl / Hayle
2000 Aberfal / Falmouth
2001 Sen Colom / St Columb
Gwanwyn 2002 Castel Pendynas, Aberfal / Pendennis, Falmouth
Awst 2002 Pensilva,
2003 Lannstefan / Launceston
2004 Truru / Truro
2005 Ponswad / Wadebridge
2006 Resruth / Redruth
2007 Pensans / Penzance
2008 Logh / Looe
2009 Essa / Saltash
2010 Porthia / St Ives
2011 Hellys / Helston
2012 Reskammel / Camelford
2013 Glasney, Pennrynn / Penryn
2014 Penntorr / Torpoint
2015 Sen Austel / St Austell
2016 Lannaghevran / St Keverne
2017 Lannstefan/Launceston
2018 Towan Blistra/Newquay
2019 Lannust / St Just in Penwith
2020 Seremoni diogel Covid-19 Truru / Truro
2021 Porthbud–Strasnedh / Bude-Stratton
2022 Heyl / Hayle
2023 Lannwedhenek / Padstow
2024 Kelliwik / Callington
Hanes Gorsedd y Beirdd gan Geraint Bowen a Zonia Bowen . Cyhoeddiadau Barddas, Dinbych 1991
Craig Weatherhill, Cornish Place Names & Language (Sigma Leisure, 1995) ISBN 1-85058-837-6
Jon Jenkin, Byrth Gorseth Kernow 1928-2007: Bards of the Gorseth of Cornwall (Gorseth Kernow, 2007) ISBN 1-903668-01-6