Graham Vivian Sutherland | |
---|---|
Ffugenw | Sutherland, Graham |
Ganwyd | 24 Awst 1903 Streatham |
Bu farw | 17 Chwefror 1980 Streatham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, lithograffydd, gwneuthurwr printiau, artist, arlunydd |
Cyflogwr | |
Arddull | portread |
Prif ddylanwad | Samuel Palmer, F. L. Griggs |
Gwobr/au | Medal of the Order of Merit of Portugal |
Arlunydd o Sais oedd Graham Vivian Sutherland (24 Awst 1903 – 17 Chwefror 1980), a anwyd yn Streatham, Llundain.
Fel arlunydd rhyfel yn 1941, ymwelodd â Chymru; roedd ei ymweliad â Sir Benfro yn garreg filltir bwysig iawn yn ei yrfa. Cafodd ei ysbrydoli yno gan y golau, y llanw, a natur y lle. Wedi'r rhyfel cafodd gomisiwn i wneud tapestrïau ar gyfer Eglwys Gadeiriol Coventry, a godwyd o'r newydd ar ôl iddi gael ei dinistrio'n llwyr bron yn y Blitz. Yn 1976 cyflwynodd peth o'i waith i oriel newydd yng Nghastell Pictwn yn Sir Benfro; caewyd yr oriel yn 1995.