Greg Davies | |
---|---|
Ganwyd | Gregory Daniel Davies 14 Mai 1968 Llanelwy |
Man preswyl | Wem |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr stand-yp, cyflwynydd teledu, athro ysgol, actor teledu, sgriptiwr |
Adnabyddus am | The Inbetweeners, Mock the Week, Taskmaster, Man Down, Cuckoo |
Taldra | 2.03 metr |
Gwefan | http://gregdavies.co.uk |
Actor a digrifwr Cymreig[1] yw Greg Davies (ganwyd 14 Mai 1968) sy'n adnabyddus am ei ran fel Mr Gilbert yn The Inbetweeners, Ken Thompson yn Cuckoo, a'i ymddangosiadau gwadd ar sioeau panel Mock the Week, Would I Lie to You? a Fast and Loose. Mae wedi perfformio ar y gyfres Live at the Apollo ar y BBC.
Ganwyd Davies yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Roedd ei rieni yn byw yn Lloegr ar y pryd ond fel Cymro roedd ei dad am iddo gael ei eni yng Nghymru. Felly fe yrrodd ei wraig ar draws y ffin i Gymru.[2] Fe'i magwyd yn Wem, tre farchnad fechan yng ngogledd Swydd Amwythig, y sir mae'n ystyried yn gartref.[3][4] Addysgwyd Davies yn Ysgol Thomas Adams a Phrifysgol Brunel, lle astudiodd Saesneg a drama.[5] Cyn dechrau ar yrfa yng nghomedi, fe ddysgodd ddrama a Saesneg mewn ysgol uwchradd am 13 mlynedd yn Langleywood School, Berkshire, a Orleans Park School yn Twickenham, Llundain.[6]
Yn 2005 chwaraeodd Davies fersiwn dychanol o W.G. Grace mewn cyfres o hysbysebion i hyrwyddo darllediadau teledu Channel 4 o The Ashes.[7]
Yn 2007 enwebwyd Davies deirgwaith yng Ngwobrau Chortle, yn y categorïau "Breakthrough Act" (am ei berfformiad stand-up unigol), "Best Sketch, Variety or Character Act", a "Best Full-Length Show" (y ddau fel rhan o dîm sgets We Are Klang).[8]
Yn 2010 enwebwyd sioe stand-up unigol cyntaf Davies, Firing Cheeseballs at a Dog ar gyfer Gwobr Comedi Caeredin yng Ngŵyl Caeredin.[9] Fe aeth y sioe ar ei daith gyntaf erioed yr hydref canlynol.[10] Fe'i henwebwyd hefyd ar gyfer gwobr Malcolm Hardee "Act Most Likely to Make a Million Quid" yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.[11]
O Hydref 2013 serennodd Davies yn y comedi sefyllfa Man Down ar Channel 4 ,[12] yn chwarae Dan, dyn sy'n casáu ei swydd fel athro,[13] gyda Rik Mayall yn chwarae ei dad. Comisiynodd Channel 4 bennod Nadolig arbennig cyn i'r gyfres gyntaf fynd i'r awyr,[14] a chyhoeddwyd y byddai ail gyfres yn ystod taith fyw Davies, "The Back of My Mum's Head", ond roedd hyn yn cyn marwolaeth sydyn Rik Mayall yn Mehefin 2014. Yn dilyn marwolaeth Mayall, bu Davies yn trafod dyfodol y sioe gyda Channel 4. Roedd yn fwriad i ehangu rhan Mayall yn yr ail gyfres.[15] Yn ddiweddarach fe gyhoeddodd Channel 4 y bydd ail gyfres yn 2015.[16] Y stafell ddosbarth a ddefnyddir yn y sioe yw'r un stafell lle'r oedd Davies yn arfer dysgu yn Ysgol Sandhurst.[17]
Yn Rhagfyr 2015 serennodd Davies yn nrama gomedi A Gert Lush Christmas ar BBC Two lle'r oedd yn chwarae Tony, ewythr cymeriadau yn cael ei chwarae gan Russell a Kerry Howard. Ar Ddydd Nadolig 2015 fe ymddangosodd fel y cymeriad King Hydroflax ym mhennod arbennig Doctor Who "The Husbands of River Song'[18]
Mae Davies yn nodedig am ei daldra, yn sefyll yn 6 ft 8 in (2.03 m) ac mae ganddo draed maint 14.[19][20]
Roedd yn arfer bod mewn perthynas gyda'r gwleidydd Llafur Liz Kendall, a ail-etholwyd yn Aelod Seneddol dros Leicester West yn 2015.[21] Fodd bynnag fe wahanodd y cwpl ychydig fisoedd cyn Etholiad Cyffredinol.[22][23]
Blwyddyn | Title | Rhan |
---|---|---|
2006 | Girls? Eugh! | |
2007 | The Musical Storytellers Ginger & Black | Mr Hopkirk |
2007 | Saxondale | Dunc |
2008 | The Wall | Amryw o gymeriadau |
2008–2010 | The Inbetweeners | Mr Gilbert |
2009 | We Are Klang | Greg |
2011 | Fast and Loose | Ei hun |
2011 | The Inbetweeners Movie | Mr Gilbert |
2011 | Greg Davies Live – Firing Cheeseballs at a Dog | Ei hun |
2012–present | Cuckoo | Ken |
2013 | Greg Davies Live – The Back of My Mum's Head | Ei hun |
2013–present | Man Down | Dan |
2014 | This is Jinsy | Jennitta Bishard |
2014 | The Inbetweeners 2 | Mr Gilbert |
2015 | Taskmaster | Ei hun |
2015 | A Gert Lush Christmas | Uncle Tony |
2015 | Doctor Who | King Hydroflax |