Math o gyfrwng | military profession, cangen o'r fyddin, military rank |
---|---|
Math | milwr, troedfilwr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Troedfilwr elît[1] sy'n taflu grenadau yw grenadwr.[2] Yn hanesyddol cafodd y milwyr talaf eu dewis i daflu grenadau mewn brwydr, gan roi'r hen enw talfilwr iddynt.[3][4] Brwydrodd y grenadwr mewn byddinoedd Ewrop yn yr 17g a'r 18g, yn arbennig mewn gwarchaeau a'r ffosydd.
Ni threfnid y grenadwyr cynharaf, ar ddiwedd yr 16g, mewn unedau arbennig, ond daethant yn fwyfwy pwysig yn oes rhyfela gwarchae. Swyddogaeth y grenadwr Ffrengig oedd arwain yr ymosodiad ar ragfuriau'r gelyn drwy daflu grenadau uwch eu pennau ac yna dwyn cyrch ar yr agorfaoedd.[5] Erbyn canol yr 17g ffurfiwyd cwmnïau arbennig o fewn bataliynau. Derbynodd y grenadwyr hyfforddiant arbenigol, ac roeddynt angen cryfder a dewrder yn wyneb y gelyn. Roedd nifer o ddamweiniau wrth i'r grenadau ffrwydro'n rhy gynnar. Derbynient gyflog uwch na'r troedfilwyr eraill a breintiau arbennig, a gwisgent lifrai crand gan gynnwys y siaco. Cawsant eu harfogi â bwyeill trymion i dorri gwrthgloddiau a rhwystrau eraill,[6] ac fel rheol darparwyd arfau safonol y troedfilwr, mysged a bidog.[5]
Yn ystod y 18g ni ddefnyddiwyd y grenadwyr cymaint, ond cedwid hwy fel lluoedd elît i arwain y blaengyrch.[5] Recriwtiwyd mathau gwahanol o grenadwyr fel rhan o'r drefn Ewropeaidd o fataliwn sy'n cynnwys pedwar cwmni, ond nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng swyddogaethau'r grenadwr a milwr rheolaidd y gadres. Defnyddid march-grenadwyr am gyfnod ym myddinoedd Prydain a Gwlad Belg. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf hyfforddid is-unedau'r bataliynau i daflu bomiau llaw ac i saethu grenadau reiffl.[6] Nid yw'r grenadwr bellach yn bodoli, ond cedwir yr enw mewn ambell uned megis Gwarchodlu'r Grenadwyr yn y Fyddin Brydeinig.