Mae'r Grob G109 (hefyd: G109A/G109B) yn awyren ysgafn a ddatblygwyd gan Grob Aircraft AG o Mindelheim Mattsies yn yr Almaen. Cafodd ei hedfan gyntaf ym 1980 a'r G109B yn dilyn ym 1984. Mae e'n gleidr-modur dwy sedd a all lansio ei hun gyda pheilot a myfyriwr yn eistedd ochr yn ochr.
Fe'i defnyddir gan y cyhoedd, ond defnyddir hi fel arfer yn y Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol (Saesneg: VGS) gan yr Awyrlu Brenhinol i addysgu cadetiaid awyr i hedfan. Defnyddir y 634VGS[1] yn MoD Sain Tathan a'r 636VGS[2] o Faes Awyr Abertawe. Caiff ei alw weithiau'n "Vigilant T1".[3]
Cyflwynwyd y Vigilant T1 ym 1991, oedd yn cymryd lle'r Slingsby Venture a chafodd ei defnyddio gan y Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno Cadetiaid i hedfan a'u dysgu sut i hedfan awyrennau. Mae'r Vigilant yn cael ei defnyddio gan yr Ysgol Hedfan Canolog yn RAF Syerston yn Swydd Nottingham sy'n dysgu hyffordwyr ac archwilwyr safonau ledled gwledydd Prydain.