Grock | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ionawr 1880 Loveresse |
Bu farw | 14 Gorffennaf 1959 Imperia |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, perfformiwr mewn syrcas, pianydd, canwr, fiolinydd, accordionist, clown |
llofnod | |
Clown o'r Swistir oedd Grock (Charles Adrien Wettach; 10 Ionawr 1880 – 14 Gorffennaf 1959).
Ganwyd ym Moulin de Loveresse, canton Bern, yn fab i oriadurwr o Iddew. Cychwynnodd ar ei yrfa berfformio yn bartner i'w dad mewn act gabare. Treuliodd bob haf yn acrobat yn y syrcas, ac yno dechreuodd canu'r feiolin, y piano, a'r seiloffon. Ymunodd â chlown arall o'r enw Brick a newidiodd ei enw i Grock yn 1903. Ymddangosodd y pâr yn Ffrainc, Gogledd Affrica, a De America. Wedi i Brick briodi, ffurfiodd Grock bartneriaeth theatr â'r clown Eidalaidd Antonet, a gweithiodd yn Lloegr o 1911 i 1924. Daeth Grock yn enwog am bortreadu gwirionyn yn mwdlan ganu'r feiolin a'r piano, a bu'n difyrru cynulleidfaoedd ar draws Ewrop nes ei berfformiad ffarwél yn Hambwrg yn 1954. Perfformiodd mewn ambell ffilm, megis Au revoir M. Grock (1950). Ysgrifennodd sawl llyfr yn Almaeneg, gan gynnwys ei hunangofiant Die Memoiren des Königs der Clowns (1956). Bu farw yn Imperia, yr Eidal, yn 79 oed.[1]