Gruff Rhys | |
---|---|
Gruff Rhys yn 2015 | |
Y Cefndir | |
Ganwyd | Hwlffordd, Sir Benfro | 18 Gorffennaf 1970
Tarddiad | Bethesda |
Gwaith | Cerddor, cyfansoddwr caneuon, gwneuthurwr ffilm, awdur, cynhyrchydd |
Offeryn/nau | Gitâr, llais, allweddellau, harmonica, drymiau |
Cyfnod perfformio | 1988–presennol |
Label | Turnstile, Rough Trade, Team Love |
Perff'au eraill | Super Furry Animals Ffa Coffi Pawb Neon Neon |
Gwefan | gruffrhys.com |
Prif leisydd a gitarydd y band Super Furry Animals yw Gruffydd Maredudd Bowen Rhys (ganwyd 18 Gorffennaf 1970). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i Ioan Bowen Rees, ond symudodd y teulu i Rachub, ger Bethesda yn 1974. Mynychodd Gruff Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda.
Mae ganddo steil unigryw o chwarae'r gitâr. Mae'n chwarae â'i law chwith, ond am iddo ddysgu chwarae ar gitâr llaw dde ei frawd, gesyd ei dannau yn y drefn honno (fel arfer bydd pobl llaw chwith yn newid trefn y tannau i hwyluso'r chwarae).
Ysgrifennodd ganeuon pan oedd yn ifanc iawn. Bu'n ddrymiwr yn y band Emily a Ffa Coffi Pawb cyn ffurfio'r grŵp Super Furry Animals, ar ôl mudo i dde Cymru.
Creodd y ffilm a phrosiect aml-blatfform I Grombil Cyfandir Pell am ei daith i'r Unol Daleithiau yn 2012.[1][2]
Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band â chanwr Celt, Martin Beattie, ym Methesda yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.
Ar ôl arwyddo i label Ankst, fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal. Pan chwalodd y grŵp yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn Barcelona am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr Dafydd Ieuan o Roscefnhir i ffurfio'r Super Furry Animals. Aelodau'r grŵp bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, Cian Ciaran, brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr a Guto Pryce ar y gitâr fâs.
Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn ôl y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar ôl bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob cân yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.
Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Fuzzy Logic, yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y sîn. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu ôl iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, Mwng, yn 2000.
Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.
Yn 2003 daeth Gruff nôl i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ngŵyl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn.
Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag Alun Tan Lan a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo. Ers hynny, mae wedi rhyddhau pedair albwm unigol arall sef Candylion, Hotel Shampoo, American Interior a Babelsberg, ac mae wedi cydweithio gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill, yn ogystal â pharhau i recordio a rhyddhau sawl albwm gyda'r Super Furry Animals. Mi wnaeth hefyd ffurfio'r band Neon Neon, ac mae wedi sefydlu label recordio o'r enw Irony Bored, sef y label wnaeth ryddhau albwm cyntaf Cate Le Bon.
Ym mis Hydref 2011, cyhoeddwyd mai Rhys oedd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg newydd am ei albwm boblogaidd, 'Hotel Shampoo'.
Yn 2016 fe ryddhaodd label Finders Keepers yr albwm Set Fire to the Stars, trac sain i ffilm o'r un enw am Dylan Thomas yn ymweld a Efrog Newydd yn 1950. Fe berffomiodd yr albwm yn fyw yn Glasgow, Manceinion, Hull, Llundain a Caerdydd. Yng Nghaerdydd roedd perchennog label Finders Keepers, Andy Votel, yn dj'o cyn y gig, yn y Theatr Newydd.
Blwyddyn | Manylion | Safle uchaf siart | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Siart Albwm y DU[3] | |||||||
2005 | Yr Atal Genhedlaeth
|
— | |||||
2007 | Candylion
|
50 | |||||
2011 | Hotel Shampoo
|
42 | |||||
2014 | American Interior
|
24 | |||||
2018 | Babelsberg
|
23 | |||||
2019 | Pang!
|
81 | |||||
2024 | Sadness Sets Me Free[4]
|
22 | |||||
"—" yn dynodi albwm na gyrhaeddodd y siart. |