Grymoedd rhyngfoleciwlaidd

Mae grymoedd rhyngfoleciwlaidd yn rheoli priodweddau ffisegol megis berwbwynt a hydoddedd. Dyma'r grymoedd sy'n cadw'r moleciwlau yn agos i'w gilydd yn yr hylif a'r solid. Y cryfaf yw'r grymoedd rhwng y moleciwlau, y mwyaf yw'r egni sydd ei angen i'w torri, felly'r uchaf bydd y berwbwynt.

Mae yna dair math o rym rhyngfoleciwlaidd:-

  1. Bondio Hydrogen (Y cryfaf)
  2. Grymoedd deupol-deupol
  3. Grymoedd deupol-anwythol deupol anwythol (Grymoedd van der waals)

Mae pob un o'r grymoedd hyn yn wannach na'r bondiau cofalent. Felly bydd gan gyfansoddyn gyda bondiau hydrogen rhwng y moleciwlau berwbwyntiau uchel.

Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol -deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel.

Grymoedd deupol-deupol

[golygu | golygu cod]

Mae’n bosib i rhai moleciwlau gario deupolau. Mae’r gwefrau bach polar yn atynnu ei gilydd, a dyma wraidd y grym rhyngfoleciwlaidd hwn. Mae’r gwefrau llawer yn llai na’r gwefrau mewn ïonau, felly mae’r grymoedd llawer yn wanach na’r grymoedd yn y dellten ïonig.

I ddarganfod os mae grymoedd deupol-deupol yn bresennol, rhaid darganfod os mae deupol yn y moleciwl. Ffurfir deupol os oes gan ddau atom wedi’u bondio at ei gilydd electronegatifedd tra gwahanol.

Rhai enghreifftiau yw'r bondiau yn C-O, C-Cl a C-F.

Grymoedd deupol anwythol- deupol anwythol (Grymoedd van der Waals)

[golygu | golygu cod]

Mae llawer o foleciwlau amholar, fel H2 a’r nwyon nobl, yn gallu cael eu hylifo ar dymheredd isel ac o dan wasgedd uchel. Mae’n dilyn felly fod gan y moleciwlau hyn atyniad at ei gilydd. Mae’r grymoedd hyn yn wan iawn, ac fe’u gelwir yn rymoedd deupol anwythol- deupol anwythol, neu’n fwy aml yn rymoedd van der Waals. Mae’r grymoedd hyn yn bodoli oherwydd deupolau dros dro. Rhaid ychwanegu yma mai term cyffredinol yw 'Grymoedd van der Waals' am rymoedd rhyngfoleciwlaidd, ac nid yw'n cyfeirio at rymoedd deupol anwythol- deupol anwythol yn unig, fel cyfeirir at y term yn aml.[1]

Mae’r electronau o fewn moleciwl yn symud yn gyflym tu mewn i’r orbitalau yn y moleciwl. Nid oes patrwm i’w mudiant ac felly gall gwefr positif y niwclews a gwefr negatif yr electronnau gyd-daro ar unrhyw bryd. Gelwir hyn yn ddeupol tonnog. Mae’r gwefr negatif yn y deupol hwn yn medru gwrthyrru electronnau mewn electron moleciwl arall i ffurfio deupol dros dro yn y moleciwl hwnnw.

Gan bod grymoedd van der Waals yn bresennol mewn unrhyw foleciwl sy’n cynnwys electronau, maent yn bresennol ymhob moleciwl. Er hynny mae’r grymoedd yn wan iawn, felly nid y rhain yw’r grymoedd pwyicaf lle bo unrhyw rym rhyngfoleciwlaidd arall.

Gan fod y grymoedd yn dibynnu ar fudiant electronau: Po fwyaf y nifer o electronnau mewn moleciwl, mwyaf hefyd bydd y deupolau dros- dro a chryfaf bydd y grymoedd van der Waals a sefydlir.

Mae nifer yr electronau yn cynyddu wrth fynd i lawr grŵp yn Nhabl Cyfnodol yr Elfennau , sy’n arwain at rymoedd van der Waals cryfach ac felly berwbwyntiau uwch.

Bondio Hydrogen

[golygu | golygu cod]

Pan mae hydrogen yn bondio efo elfen electronegyddol iawn (fflworin, ocsigen neu nitrogen) caiff deupol mawr a chryf iawn ei ffurfio. Mae’r sefyllfa yma yn unigryw gan bod atom o hydrogen yn fach iawn, heb unrhyw blisg electronau mewnol.

  • Dim ond un electron sydd ar yr atom hydrogen, ac mae’r electron yna yn treulio'r rhan helaeth o’i amser rhwng y ddau niwclews.
  • Heb blisg mewnol [llawn] nid oes yna unrhyw sgrinio rhag y niwclews.
  • Mae’r atom yn ddigon bach fel y gall pen negatif o ddeupol arall ddod yn agos iawn at niwclews yr hydrogen.

Gall yr ardal positif hwn ffurfio grymoedd deupol-deupol hynod o gryf gyda gwefr negatif. Gelwir yn fondio hydrogen, a gall y grym rhyngfoleciwlaidd hwn fod hyd at 10% o gryfder bond cofalent. Mae’r bondiau hydrogen hefyd yn fwy cyfeiriadol eu natur na grymoedd deupolar. Mae hyn yn arwain at ddellt efo mwy o drefn na dellt lle nad oes bondio hydrogen.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.