![]() | |
Math | dip, bwyd ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | avocado, sudd leim, coriander, jalapeño, halen ![]() |
Enw brodorol | guacamole ![]() |
![]() |
Math o cyd-bryd yw guacamole sy'n wreiddiol o Fecsico. Mae'r gair "guacamole" yn dod o'r gair Nahuatleg (iaith yr Azteciaid), ahuacamolli, sy'n golygu "saws afocado", sy'n cynnwys y geiriau âhuacatl [aːˈwakat͡ɬ] ("afocado") a molli [ˈmolːi] ("saws", yn llythrennol "trwyth") . Mae'n cyd-bryd neu saws boblogaidd gyda bwydydd Mecsico ac yn gyffredin gyda bwyd Tex-Mex.[1] Arddelwyd y sillafiad Cymraeg gwacamoli gan fand Cymraeg o'r un enw o'r 1990au hwyr.
Roedd gan yr afocado arwyddocâd erotig i'r Azteciaid, i'r fath raddau fel na allai merched gasglu'r ffrwythau, gan eu bod yn symbol o'r ceilliau.[2][3] Yn ôl mytholeg cyn-Sbaenaidd, cynigiodd y duw Quetzalcoatl rysáit guacamole i'w bobl, ac fe ledaenodd ar hyd a lled tiriogaeth Mesoamerica.
Mae Guacamole yn cynnwys mwydion stwnsh neu biwrî o afocados aeddfed, sudd lemwn neu leim, coriander wedi'i dorri'n fân, a halen. Mewn rhai ryseitiau, mae pupur, winwns, garlleg, pupur tsili neu domatos wedi'u torri'n fân yn cael eu hychwanegu at y guacamole. Mae'r saws gwyrdd yma'n cael ei fwyta gyda taquitos, creision tortilla neu i fynd gyda chig. Ceir paratoadau tebyg ar gyfer saladau afocado.
Mae'r ensym polyphenol oxidase (PPO) sydd i'w gael mewn afocados yn achosi guacamole i droi'n frown yn gyflym os caiff ei adael yn yr awyr agored. Gall ychwanegu sudd lemwn neu leim arafu'r broses hon. Y ffordd fwyaf effeithiol o'i warchod yw gorchuddio'r guacamole gyda haenen lynu i'w wneud yn aerglos. Gall y polyphenol oxidase gael ei anactifadu â thriniaeth pwysedd uchel. Gellir storio Guacamole wedi'i bacio dan wactod am sawl wythnos heb iddo frownio.[4]
Bu cynnydd yn y defnydd o guacamole yn Unol Daleithiau America wedi i'r llywodraeth codi'r gwaharddiad ar fewnforion afocados yn y 1990au. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â thwf ym mhoblogaeth pobl o Fecsico ac America Ladin yn y wlad, a'u nerth pwrcasu.[5]
Ceir ebychiad boblogaidd yn Saesneg America, "holy moly guacamole" a ddefnyddir i ddynodi syndod neu braw ysgafn. Does gan yr idiom ddim oll i'w wneud â'r bwyd guacalmole heblaw bod "guacamole" yn odli gyda "holy".[6] Mae'r idiom wedi ei fabwysiadu gan gwmni Prydeinig sy'n cynhyrchu bwydydd guacamole.[7]
Yn 2012 enwebwyd y ffilm fer wedi'i hanimeiddio, Fresh Guacamole, am Oscar am ffilm animeiddiedig fer. Mae'n ffilm fer swreal am baratoi guacamole gan PES (Adam Pesapane).[8]
Cafwyd band pop Cymraeg o'r 1990au hwyr a 2000au cynnar o'r enw Gwacamoli, sef y sillafiad yn yr orgraff Gymraeg. Roedd y band o ardal Bangor a'r brif leisydd oedd Gethin Thomas. Bu iddynt ryddhau CD dan y teitl 'Topsy Turvy', ac EP o'r enw 'Clockwork'.[9] Roeddynt yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac, efallai eu trac fwyaf enwog oedd Plastig Ffantastig a ryddhawyd ar CD Amlgyfrannog rhaglen 'Ram Jam' ar BBC Radio Cymru yn 1997.[10]